Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Mae’r salm hon yn alarnad gymunedol gan gerddorion y deml (meibion Asaff), mae’n debyg ar adeg pan oedd trychineb wedi cwympo ar lwythau’r gogledd. Gan ddod at ei gilydd i alaru gerbron Duw, mae’r Israeliaid yn cydnabod bod angen Duw arnynt yn fwy na dim, uwchlaw unrhyw beth arall, ac felly maent yn erfyn iddo droi yn ôl atynt. Maent yn atgoffa Duw o’r addewidion cyfamodol iddynt a’i weithredoedd i’w hachub yn y gorffennol, pan ddaeth â nhw allan o’r Aifft.
Trwy gydnabod blaenoriaeth ein perthynas â Duw uwchlaw popeth arall, gallwn dyfu gwreiddiau ysbrydol dwfn. Wrth siarad am wreiddiau, mae’r salm hon yn cynnwys delweddaeth hyfryd o Israel fel y winwydden â Duw fel y gwinllannwr (adnodau 8-11). Mae’n fotiff o ragluniaeth amyneddgar, ac o ofal agos – gan fod angen gofal ac amddiffyniad cyson ar winwydd – ac mae’n debyg i’r ddelweddaeth o fugail a welir mewn mannau eraill (e.e. Salm 23). Mae Iesu hefyd yn defnyddio’r ddelweddaeth pan fydd yn galw ei hun yn wir winwydden (Ioan 15.1-17).
Dangosir bod galaru a chwestiynu Duw yn rhan dderbyniol o fod mewn perthynas gyfamodol ag ef. Mae’r ffaith bod yr erfyniadau hyn wedi’i chynnwys yn y Beibl yn ailddatgan awydd Duw i gael deialog â ni. Hefyd, mae’n rhoi anogaeth inni fod yn onest â Duw.
Dad Nefol, pan fyddaf yn teimlo dy fod yn bell i ffwrdd a minnau wedi fy mrifo, diolch nad oes angen i mi ei guddio oddi wrthyt. Diolch fy mod yn gallu defnyddio geiriau’r Salmau pan na allaf ffurfio’r geiriau fy hun. Parha i fy mrigdorri yn amyneddgar fel fy mod yn dwyn llawer o ffrwyth. Yn enw Iesu. Amen.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Katy Dorrer, Swyddog Ymgysylltu â’r Ysgrythur Catholig Cymdeithas y Beibl.