Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Deuwn ger dy fron Arglwydd, yn union fel yr ydym ni: dim mwy, dim llai. Fe wnaethost ti ni ar dy ddelwedd dy hun a’n caru i fodolaeth. Felly bydd yn ein plith nawr, yn union fel yr ydym ni: dim mwy, dim llai. Diolchwn i ti Dduw am yr amser hwn heddiw. Amen.
Yng ngweledigaeth nesaf Eseciel, dangosir gwinwydden ddiwerth iddo. Mae pren y winwydden hon yn dda i ddim os nad yw’n dwyn ffrwyth, yn wahanol i goed eraill y mae llawer o bethau’n cael eu gwneud ohonynt i’n defnydd a’n budd. Gellir cymharu’r ddelwedd hon a delwedd Israel fel y winwydden yng Nghân y Winllan Eseia (pennod 5). Yn y broffwydoliaeth hon, mae Eseciel yn egluro, os yw gwinwydd yn ddiwerth i ddechrau, y bydd hyd yn oed yn fwy diwerth pan fydd y tân wedi’i llosgi (adnod 5).
Mae delweddaeth y winwydden yn bwysig yn yr Hen Destament a’r Testament Newydd gan fod tyfu gwinwydd yn llwyddiannus yn allweddol i’r economi ffermio Iddewig. Roedd yn alwedigaeth sefydledig i nifer o weithwyr. Bydd unrhyw un sy’n gwybod am winllannoedd yn gwybod nad yw’n swydd hawdd ac mae’n dibynnu ar bridd da a thywydd da. Os nad yw’r tywydd yn iawn ni fydd unrhyw beth i’w werthu adeg y cynhaeaf, gan adael darn mawr o dir yn cael ei wastraffu.
Felly dywed Eseciel fod Duw yn gweld Tŷ Israel fel gwinwydden ddiwerth, ddi-ffydd sydd wedi dod yn anaddas i dyfu a ffynnu. Maent wedi gwrthod eu Duw ac wedi gwywo. Bydd Duw yn gosod ei wyneb yn eu herbyn yn union fel y bydd y tân yn dinistrio’r winwydden.
Erbyn inni ddod at Efengyl Ioan, lle mae Ioan yn disgrifio Iesu ei hun fel y winwydden, rydym eisoes wedi ein trwytho â thapestri cyfoethog o feddwl am ein perthynas ag Iesu fel y canghennau ar y winwydden. Heb Dduw a’i Fab ni allwn oroesi, mwy nac all cangen oroesi heb y winwydden y mae’n gysylltiedig â hi, ac y mae’n derbyn ei bywyd ohoni.
Arglwydd cariadus, ti yw’r winwydden a ni yw’r canghennau. Gad imi byth anghofio fy angen amdanat ac felly pheidio byth â cheisio byw ar wahân i dy ewyllys. Amen.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Fleur Dorrell, Rheolwr Ymgysylltu â’r Ysgrythur Catholig Cymdeithas y Beibl