Skip to main content

Gwnewch y mwyaf o fywyd: Mathew 25.14–30 (14 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 25

Yma mae ‘dameg y talentau’ – gellir cyfieithu talent fel ‘1,000 darn  aur’ – yn cyd-fynd â’r syniad y bydd Crist yn dod i farnu beth rydym wedi’i wneud gyda’r hyn rydym wedi’i gael, ac mae’n anghyfforddus i’w darllen. Ar un lefel, mae’n ddarn o ddoethineb ymarferol. Mae gan bob un ohonom ‘dalentau’, yn yr ystyr fodern: doniau, sgiliau, cyfleoedd. Beth ydym yn ei wneud gyda nhw? Does dim rhaid i ni fod yn benderfynol i ‘lwyddo’ neu i lenwi ein bywydau â phrofiadau newydd – gall hynny arwain at gystadleuaeth nad yw’n iach. Ond dylem anelu at fod yn ddefnyddiol, llenwi ein bywydau yn adeiladol, a diweddu pob dydd â rhywbeth i’w ddangos am ein hymdrechion. Nid yw drifftio yn ddi-nod yn opsiwn i gredinwyr.

Ond mae mwy yma, hefyd. Rhoddir gwahanol symiau i’r gweision – ac unwaith eto, mae hyn yn wir am fywyd. Mae gan bob un ohonom gwahanol alluoedd naturiol a chyfleoedd bywyd. Mae bod yn chwerw am ein hanfanteision yn ddibwrpas; beth wnawn ni â’r hyn rydym wedi’i gael? Ac mae yna fanylion rydym yn ei fethu weithiau – mae’r symiau o arian dan sylw yn syfrdanol. Mae’r rhodd o fod yn fyw yn amhrisiadwy; bendithiwyd hyd yn oed y gwas a dderbyniodd y swm lleiaf.

Mae yna gwestiwn ymhlyg yn y stori hefyd: pa mor debyg i Dduw yw’r meistr yn y ddameg mewn gwirionedd? Ai ef yw’r ‘dyn caled’ sy’n gwobrwyo’r rhai sydd eisoes â digon ac yn cymryd oddi wrth y tlotaf hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw? Na: ac mae yna haen arall o ystyr i’w harchwilio yma. Yn y byd go iawn, mae hyd yn oed gweision mwyaf annheilwng Duw yn cael eu caru, eu croesawu ac yn cael maddeuant.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am rodd bywyd ac am y cyfleoedd rwyt yn eu rhoi i mi brofi’r byd rhyfeddol rwyt wedi’i greu. Helpa fi i ddefnyddio bob dydd yn ddoeth ac yn dda.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible