Skip to main content

Gwrthwynebiad i’r efengyl: Actau 19.23–41 (31 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Actau 19

Yn Effesus roedd teml wedi’i chysegru i’r dduwies Rufeinig Artemis, a byddai ymwelwyr yn prynu eilunod arian i fynd adref gyda nhw. Oherwydd bod gweinidogaeth Gristnogol Paul mor llwyddiannus, roedd busnes y ‘gwneuthurwyr eilunod’ yn dioddef gan eu harwain at derfysg.

Yn y DU mae pobl wedi eu bendithio’n fawr o gael rhyddid cymharol i fynegi addoliad; fodd bynnag, mewn sawl man yn y byd, mae Cristnogion yn dioddef erledigaeth. Efallai bod cymhellion economaidd i bobl roi pwysau ar eraill i ildio neu gyfaddawdu eu ffydd. Mae yna hefyd resymau gwleidyddol, ideolegol a chrefyddol pam y gallai hyn ddigwydd. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn barod i roi eu bywyd mewn perygl yn hytrach na gwadu eu ffydd yn Iesu.

Mae rhai’n ymladd yn ôl. Roedd Paul eisiau wynebu’r dorf gan nad oedd ganddo ofn trais torfol (mewn gwirionedd roedd yn aml yn dioddef o’i herwydd). Ond sut allwn ni ymateb i erledigaeth? Gallwn weddïo dros sefydliadau sy’n mynd i’r afael ag erledigaeth gorfforol Cristnogion ledled y byd a cheisio cefnogi eu hymdrechion. Ond hefyd, gallwn fod yn ddigon dewr i sefyll dros ein ffydd hyd yn oed pan fydd eraill o’n cwmpas yn sinigaidd neu hyd yn oed yn atgas. Yn Actau 19, tawelwyd y sefyllfa yn y pen draw gyda rheswm. Gallwn ninnau hefyd weddïo y byddai rheswm a derbyniad yn arwain at heddwch i bawb sy’n cael eu herlid.

Gweddi

Gweddi

Annwyl Dduw, dw i’n gweddïo dros bawb sy’n dioddef erledigaeth. Dw i’n gweddïo y byddi di gyda nhw ac yn dod a diwedd cyflym i’w sefyllfa. Gweddïaf hefyd y byddi yn rhoi’r nerth imi wneud fy ffydd yn hysbys i eraill ac amddiffyn dy enw pan welaf ef yn cael ei wrthwynebu.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Hannah Stevens, aelod o dîm Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible