Skip to main content

Gwylio am iachawdwriaeth: Eseia 52 (19 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseia 52

Mae Eseia 52 yn alwad i godi o syrthni anobaith. Pan fydd pobl yn colli gobaith, gallent gau i lawr yn emosiynol i warchod eu hunain rhag poen pellach. Ond mae’r proffwyd nawr yn dweud wrthynt am ddeffro, ysgwyd y llwch oddi arnynt a gwylio am eu gwaredigaeth hir-ddisgwyliedig – sydd bellach o fewn golwg!

Byddai’r negesydd yn y dyddiau hynny (adnod 7) wedi gorfod rhedeg, cerdded neu ymlwybro’n gorffol ar draws pob math o dir i ddod â’i newyddion da. Byddai’r gwylwyr neu’r gwarchodwyr, ar adfeilion wal y ddinas wedi ei weld yn gyntaf fel brycheuyn bach yn y pellter. Yna byddent wedi gorfod aros wrth iddo ddod yn agosach ac yn agosach, o fewn pellter gweiddi, cyn y gallent fod yn sicr o’i neges. 

Prin y gellir dychmygu’r senario hwn, pan ellir derbyn y newyddion diweddaraf o ochr arall y byd ar draws mynyddoedd, cefnforoedd ac anialwch trwy loeren mewn mater o eiliadau. Nid oes gan ein negeswyr draed ar y mynyddoedd; mae ganddynt wynebau ar y sgrin yn ein hystafell fyw, hyd yn oed yn ein poced. Gallwn wylio’r dinistr a gwaredigaeth dinasoedd ledled y byd, yn fyw.

Does ryfedd ein bod weithiau’n ddiamynedd pan nad yw’n ymddangos bob Duw yn ateb ein gweddïau ar unwaith. Ond nid yw’n fyddar i’n cri, ac mae’n dod i gysuro ei bobl. Yr addewid yw y bydd ‘pobl o ben draw'r byd yn gweld ein Duw ni yn achub’ (adnod 10), ac fe’n hanogir i ddeffro a gwylio amdano.

Gweddi

Gweddi

Helpa ni, Arglwydd, i gadw ein llygaid arnat ti, i weld dy achubiaeth hyd yn oed o bell, ac i lawenhau ynddo. Amen


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Lisa Cherrett, Golygydd Cynhyrchu yn y tîm Cyhoeddi

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible