Skip to main content

Gwyrth am hanner nos: Actau 20.7–12 (1 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Actau 20

Mae Actau 20 yn dilyn gweinidogaeth Paul wrth iddo deithio trwy’r lleoedd niferus lle’r oedd wedi plannu eglwysi. Mae yna lawer o ddigwyddiadau difrifol iawn wedi’u cofnodi yn llyfr yr Actau, ond yn 20.7-12 rydym yn dod ar draws ochr ddoniol, er ei bod dal yn ingol. Os ydych yn teimlo weithiau bod y pregethwr yn eich eglwys yn llusgo ymlaen, efallai y byddech yn cydymdeimlo ag Eutychus, a syrthiodd i gysgu yn ystod pregeth gan Paul a barhaodd tan hanner nos. Yn anffodus, achosodd hynny iddo syrthio allan o ffenestr trydydd llawr a marw – ond mi wnaeth Paul ddod ag ef yn ôl yn fyw eto ac aethpwyd ag ef adref yn ddiogel. Yna bwytaodd Paul gyda’r credinwyr a pharhau i siarad tan godiad yr haul! Yn hytrach na digalonni bod pobl yn syrthio i gysgu yn ystod ei bregeth, roedd Paul yn frwd gan y wyrth a wnaeth Duw – mor frwd nes iddo bregethu drwy’r nos.

Gall fod yn rhy hawdd digalonni weithiau os gwnawn gamgymeriadau wrth inni fyw ein ffydd. Ond gallwn geisio cael mwy o angerdd a brwdfrydedd dros Dduw. Efallai bod angen i ni ailgysylltu â Duw trwy weddi neu trwy’r Beibl. Neu efallai bod angen i ni ofyn i Dduw ddangos i ni yn gliriach sut mae’n gweithio yn ein bywydau. Dangosodd Paul hefyd ei angerdd am yr efengyl trwy ei barodrwydd i  fentro popeth, fel y gwelwn yn y bennod nesaf.

Gweddi

Gweddi

Annwyl Dduw, helpa mi i beidio â digalonni pan nad yw pethau’n edrych yn dda a rho fwy o angerdd imi dy ddilyn. Siarada â mi a dangos ym mhellach sut rwyt yn gweithio yn fy mywyd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Hannah Stevens, aelod o dîm Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible