Skip to main content

Hiraeth am dŷ Duw: Salm 84 (30 Medi 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Salm 84

Mae’r salm adnabyddus hon yn disgrifio’n hyfryd hiraeth y salmydd i fod yn nhŷ Duw, y deml yn Jerwsalem. Mae’r pererin hyd yn oed yn swnio’n genfigennus o adar y to a’r gwenoliaid sy’n nythu yno. Er na chredid bod Duw yn ‘gyfyngedig’ i’r deml (1 Brenhinoedd 8.27) roedd y deml yn fan lle'r oedd Israeliaid yn disgwyl cyfarfod â Duw mewn ffordd arbennig ac i fod yn lle canolog ar gyfer addoli. Roedd gogoniant yr Arglwydd wedi llenwi’r deml pan gafodd ei hadeiladu o’r newydd (1 Brenhinoedd 8.11) ac ystyriwyd Arch y Cyfamod yno yn stôl droed gorsedd Duw (Salm 132.7, Numeri 10.35-36).

Yn ystod y cyfnod clo, mae llawer o Gristnogion hefyd wedi methu mynychu eglwysi yn gorfforol, fel lle i gyfarfod â Duw a’i addoli mewn ffordd arbennig. Efallai bod llawer wedi troi at weddi a’r Beibl i geisio presenoldeb Duw gartref. Mae cynsail hanesyddol ar gyfer hyn. Treuliodd un o seintiau mawr yr Eglwys, Sant Jerome, lawer o’i fywyd ar ei ben ei hun wrth iddo gyfieithu’r Beibl i iaith gyffredin y dydd – Lladin. Credir y byddem, trwy ddarllen yr Ysgrythur, yn dyfnhau ein perthynas â Duw – mae ei ddyfyniad enwog ‘ignorance of Scripture is ignorance of Christ’ yn dangos hyn.

Heddiw, 1600 o flynyddoedd ar ôl ei farwolaeth, mae’n digwydd bod yn ddiwrnod ei wledd, felly mae’n gyfle gwych i fod yn ddiolchgar i’r holl gyfieithwyr Beibl, ddoe a heddiw, sydd wedi rhoi cyfieithiadau o’r Beibl i ni yn ein hieithoedd ein hunain i’w mwynhau adref.

Gweddi

Gweddi

Dad Nefol, diolch am rodd dy bresenoldeb. Cynydda fy awydd amdanat. Yn enw Iesu, Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Katy Dorrer, Swyddog Ymgysylltu â’r Ysgrythur Catholig Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible