Skip to main content

Imiwnedd parhaol?: 1 Corinthiaid 10.18–23 (4 Medi 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Llonydda fy meddwl, Arglwydd, a gad imi dy glywed.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Corinthiaid 10

Wrth i’r byd fynd i’r afael â’r coronafeirws, rydym yn darganfod efallai na fydd brechiad hyd yn oed yn gwarantu imiwnedd parhaol. Yn arwain at ddarlleniad heddiw, mae’r apostol Paul yn tynnu sylw at genhedlaeth Exodus: nid wnaeth hyd yn oed hwb ysbrydol Duw yn eu hymwared o rym yr Aifft, eu gwneud yn imiwn i eilunaddoliaeth yn yr hirdymor.

Aiff Paul ymlaen i gysylltu stori Exodus â Swper yr Arglwydd. Mae’n rhybuddio Cristnogion yng Nghorinth rhag dathlu cymun un diwrnod ac ymuno mewn defodau paganaidd gan gynnwys bwyta cig a aberthwyd i eilunod drannoeth: ‘Dydy hi ddim yn iawn i chi yfed o gwpan yr Arglwydd ac o gwpan pwerau cythreulig ar yr un pryd. Allwch chi ddim bwyta wrth fwrdd yr Arglwydd ac wrth fwrdd cythreuliaid’ (adnod 21).

Byddai Paul wedi bod yn hapus i brynu cig o farchnad, heb boeni pe bai paganiaid wedi ei ladd yn ddefodol. Ond pe bai rhywun wedi cynnig cig iddo fel gwahoddiad i ymuno mewn addoliad eilunod byddai wedi gwrthod. Yn yr un modd, mae cydbwysedd da rhwng ymgolli yn niwylliant heddiw a gwybod pryd i gymryd safiad neu ddweud na.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, rho imi’r doethineb a’r nerth i fod yn y byd, ond nid o’r byd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible