Skip to main content

Iselder ysbrydol: Mathew 11.1–10 (30 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 10

Mae yna rywbeth eithaf hiraethus neu ddolefus am neges Ioan Fedyddiwr at Iesu. Mae Ioan yn y carchar, ar ôl troseddu’r brenin pwerus Herod Antipas. Mae Ioan Fedyddiwr yn ffigwr awdurdodol, carismatig, fel Elias, ond roedd Elias, yn dioddef o iselder ar ôl ei fuddugoliaeth fawr dros broffwydi Baal, ac yn teimlo’n unig ac wedi’i wrthod (1 Brenhinoedd 19). Efallai fod Ioan, a garcharwyd yng nghaer Machaerus Herod, yn destun amheuon tebyg. Ai Iesu oedd y Meseia mewn gwirionedd, neu a ddylai Israel chwilio am rywun arall (adnod 3)? 

Mae amheuaeth ac iselder ysbrydol yn rhan o fywyd. Mae rhai ohonom ni’n fwy tueddol iddynt nag eraill. Nid ydynt yn dystiolaeth o feddwl anysbrydol neu galon ddiffydd; gall fod i’r gwrthwyneb, mewn gwirionedd, wrth i’r rhai sy’n profi pethau hyn gwffio â chwestiynau dwfn ar sail ystyr. Ond mae’r cwestiynau hyn yn boenus ac yn drallodus, a gall fod yn anodd gwybod sut i helpu rhywun sy’n mynd drwyddynt. 

Ateb Iesu i ddisgyblion Ioan yw, ‘Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi'i glywed a'i weld’ (adnod 4). Hynny yw, mae’n apelio at dystiolaeth profiad. Weithiau nid rhesymu cynnil na dadleuon deallusol sy’n torri drwodd i anghenion enaid sy’n cwestiynu, ond arddangosiad ymarferol yn unig: mae hyn yn gweithio. Mae Teyrnas Duw yma, ac os edrychwch o’ch cwmpas, gallwch ei weld drosoch eich hun.

Ac efallai bod credinwyr heddiw yn cael eu galw nid yn unig i ddarparu dadleuon dros ffydd, ond tystiolaeth.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i weld tystiolaeth dy ddaioni a’th rym, wrth i dy deyrnas ddod yn a thrwy fywydau dy bobl. A helpa fi i fod yn rhan o dy waith yn trawsnewid y byd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible