Skip to main content

Maddeuant anghyflawn: 2 Samuel 14.1–24 (17 Medi 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Samuel 14.1–24

Mae Absalom yn alltud ar ôl lladd Amnon; nid yw Dafydd am ddod ag ef yn ôl, ond roedd ganddo hiraeth amdano. Mae’r wraig sy’n dweud wrth Dafydd y stori drist am ei dau fab yn anelu at yr un canlyniad â’r proffwyd Nathan (pennod 12), gan obeithio y bydd Dafydd yn gweld ei hun yn y stori. Yr oedd Nathan, er hynny, yn siarad yn enw Duw; roedd hi’n enau i Joab. Bydd y canlyniadau’n drasig.

Mae’r stori yn codi cwestiynau pwysig am gyfiawnder. Lladdodd Absalom ei frawd oherwydd bod ei dad wedi methu a gweithredu. Dangosir ansicrwydd Dafydd eto pan fydd yn caniatáu i Absalom ddychwelyd ond yn gwrthod ei weld (adnod 24). Nid yw Absalom yn cael ei gosbi na chael maddeuant; daw ei waharddiad yn annioddefol (adnod 32).

Efallai y byddem am feddwl am bobl yn sefyllfa Absalom. Maent wedi gwneud cam, ond nid ydynt yn cael eu hadfer i ddefnyddioldeb nac i berthynas deuluol go iawn. Fe’u gwaharddir yn barhaol, y tu allan i bopeth y maent yn ei werthfawrogi neu sy’n rhoi ystyr i’w bywyd. Gall pobl yn y sefyllfa hon – efallai oherwydd trosedd wirioneddol, fel Absalom, neu oherwydd methiant moesol yng nghyd-destun eglwys neu chwalfa ymddiriedaeth mewn perthynas – gael eu niweidio’n ddrwg iawn. Gall fod yn anodd i’r rhai sydd wedi cael eu brifo neu eu siomi symud tuag atynt; mae angen llawer o ras arnynt. Yn y Testament Newydd, mae Iesu’n dangos maddeuant llawn a rhydd pan mae’n dweud wrth Pedr am ‘arwain fy nefaid a ‘gofala am fy nefaid’ pan fydd yn cwrdd ag ef ar ôl ei atgyfodiad (Ioan 21.15-17). Nid yw Dafydd yn cynnig unrhyw beth i Absalom.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch dy fod yn cynnig ffordd yn ôl i bechaduriaid. Cynorthwya fi i beidio ag eithrio’r rhai rwyt yn eu galw ac yn eu croesawu, ond i faddau fel rydw i wedi cael maddeuant.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible