Skip to main content

Mae ffydd yn para: 2 Brenhinoedd 3 (21 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Brenhinoedd 3

Gorymdaith gwmpasog yn yr anialwch am saith diwrnod, dim dŵr iddynt eu hunain na’u hanifeiliaid – yn anobeithiol, yn flinedig, yn llwglyd ac mae’r frwydr eto i ddod. Yn yr adeg yma o argyfwng y mae Jehosaffat yn gofyn y cwestiwn: ‘Oes yna un o broffwydi'r ARGLWYDD yma, i ni holi'r ARGLWYDD drwyddo?’ (adnod 11). Mae ymateb blin Eliseus: ‘Gad lonydd i mi. Dos at broffwydi dy dad neu broffwydi dy fam!’ (adnod 13), yn arwydd o ba mor ddrwg mae pethau wedi ei mynd.

Yng nghyfnod y Brenin Dafydd, rhoddodd yr archoffeiriad a’r proffwydi gyngor i’r brenin yn rheolaidd, ond yma mae’n weithred olaf anobaith. Mae hon yn foment bwysig i Eliseus. Mae ef wedi olynu Elias a dyma’r tro cyntaf iddo gyfathrebu gyda brenin. Eto, yng nghanol y stori o frenhinoedd sydd wedi crwydro o’r llwybr cyfamodol mae llygedyn o obaith o hyd: ‘Oes yna un o broffwydi'r ARGLWYDD yma, i ni holi'r ARGLWYDD drwyddo?’. Mae’r brenhinoedd wedi troi eu cefn ar eu gwaith ac wedi methu ei gyflawni, ond nid yw’r llais proffwydol wedi’i anghofio. Roedd marwydos o berthynas gyfamodol Duw yn dal i losgi. Rydym yn gweld hyn dro ar ôl tro yn Brenhinoedd. Yng nghanol gwrthod Duw, mae ffyddlondeb yn parhau.

Heddiw efallai y byddwch yn gweld neu hyd yn oed profi gwrthod Duw. Peidiwch â digalonni! Bydd ffyddlondeb Duw a’r rhai sy’n ei ddilyn yn parhau.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, diolch fod dy ffyddlondeb a dy gariad tuag atom yn parhau. Bendithia’r rhai sy’n siarad a dilyn dy air. Rho ddewrder a hyder iddynt pan gaent eu gwrthod.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Stuart Noble, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible