Skip to main content

Mae Iesu yn dod: Mathew 24.36–51 (13 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 24

Mae’r bennod hon yn Mathew yn rhan o’r ‘Apocalyps Bach’, darn o ddysgeidiaeth sy’n canolbwyntio ar ddiwedd amser. Ysgrifennwyd y bennod mewn arddull ‘apocalyptaidd’- yn debyg i Lyfr Datguddiad neu rannau o Daniel. Dylem fod yn wyliadwrus o’i drin fel math o fap ar gyfer y dyfodol; mae’r ymdrechion i ddehongli’r llyfrau hyn o ran digwyddiadau’r byd bob amser yn methu.

Mae gwers Mathew 24 yn syml: mae barn Duw trwy Iesu yn dod, a does neb yn gwybod pryd. Mae’r adnodau hyn yn rhai brys ac ymarferol: fe all ddigwydd yfory. Gallai hyd yn oed ddigwydd heddiw. Daw’r cwestiwn, sut felly y dylem ni fyw?

Ar lefel bersonol yn unig, pan fyddwn yn ymwybodol ein bod am wynebu archwiliad o’n hymddygiad neu ein dwyn i gyfrif am ein hymddygiad, rydym yn tueddu i fod ar ein gorau. Gwyddom ein bod ni’n atebol, ac rydym yn tueddu i gyrraedd safon uwch. Mae Iesu yn ein hatgoffa ein bod ni’n atebol i Dduw.

Y rhan fwyaf o’r amser, efallai, nid ydym yn teimlo hyn. Efallai y byddwn yn meddwl amdano fel rheolwr absennol hamddenol nad oes ots ganddo am yr hyn yr ydym yn ei wneud. Na, meddai Iesu: mae sut rydym yn byw yn bwysig mewn gwirionedd, ac yn os ydym yn ddiofal, yn ddi-ffydd neu’n bechadurus, mae Duw yn gweld.

Pe byddem yn deffro bob dydd gan feddwl ‘pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o'r dwyrain i'r gorllewin’ (adnod 27) pa wahaniaeth y byddai’n ei wneud i sut rydym yn byw?

 

Gweddi

Gweddi

Duw, maddau imi os ydw i wedi byw yn ddiofal a heb wneud y mwyaf o’r amser rwyt wedi’i roi imi ar y ddaear hon. Helpa fi i fyw o ddydd i ddydd, yn barod ar gyfer dyfodiad Crist.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible