Skip to main content

‘Mae’n ddrwg gen i – ddim digon da?: Mathew 18.21–35 (7 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, trugarha. Glanha fi. Llonydda fy meddwl. Helpa fi i wrando wrth i ti siarad.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 18

Mae Mathew 18 yn cynnwys dywediadau digyfaddawd gan Iesu: ar falchder, temtasiwn a chyflog pechod.

Ac eto, darllenwch y darnau hyn yn ofalus ac mae yna bob amser gweledigaeth sylfaenol o waredigaeth. Dychmygwch fyd lle mae pobl wedi colli eu chwant am statws a’u hawydd i reoli’r gwan. Dychmygwch Gristion sy’n gwneud i ffwrdd ag unrhyw beth sy’n sefyll rhyngddyn nhw â Duw.

Yn yr un modd, mae’r ddameg ar ddiwedd y bennod yn cyplysu dweud digyfaddawd a chipolwg ar ryddid mewnol. Gellir dadlau bod y nod hwn hyd yn oed yn anoddach i’w gyflawni na’r gostyngeiddrwydd a’r purdeb y soniodd  Iesu amdanynt yn gynharach. Mae’r gwas anfaddeuol yn y stori yn cael ei ddinistrio gan ei anallu i ollwng ei ddicter. Pe bai ond wedi canolbwyntio ar drugaredd y brenin, yn hytrach na methiant ei gyd-was, byddai wedi ennill achubiaeth.

Nawr, efallai wrth gofio’r gyrrwr cyfeillgar a ffrwynodd ei hun ddoe bydd hyn yn ein helpu i faddau i’r gyrrwr diofal a fu’n agos i beri damwain bum munud yn ôl. Ond beth sy’n digwydd yn yr achosion hynny pan nad yw ymddiheuriad yn teimlo’n ddigon da neu pan na ddywedir sori o gwbl? Beth am y cydweithiwr atgas, y cymar anffyddlon, y treisiwr o 30 mlynedd yn ôl? Os nad yw maddeuant yn golygu troi llygad dall at ddrygioni, beth felly y mae’n ei olygu? Sut yn union ydym yn casáu’r pechod ond yn caru’r pechadur?

Unwaith eto, mae Iesu yn siarad am ymwared llwyr, trwy ddweud wrthym am ‘faddau’n llwyr’ (adnod 35). Rhaid i faddeuant gwmpasu nid yn unig ewyllys rhywun, ond tyllau a chorneli’r diarwybod, lle mae brifo a drwgdeimlad wedi cronni dros amser. Gall maddeuant fod yn broses hir a phoenus, weithiau yn ddibynnol ar gymorth proffesiynol. Ond a oes unrhyw allanfa arall oddi wrth y llwybr i hunan-ddinistr?

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, mae arnaf angen dy faddeuant pob awr o bob dydd, o’r crud i’r bedd. Gwna imi fod yn ddiolchgar am dy ras helaeth a dy haelioni wrth ei drosglwyddo i eraill.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible