Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.
Skip to main content

Mater o fywyd ar ôl marwolaeth: Mathew 22.23–33 (11 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, trugarha. Glanha fi. Llonydda fy meddwl. Helpa fi i wrando wrth i ti siarad.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 22

Cytunodd dau fynach canoloesol y byddai pwy bynnag a fu farw ac a aeth i’r nefoedd yn gyntaf yn dweud wrth y llall ai dyna sut yr oeddent wedi’i ddychmygu, trwy ddweud un gair: naill ai ‘taliter’ (mae fel yr oeddem yn meddwl) neu ‘aliter’ (mae’n wahanol i’r hyn yr oeddem yn meddwl). Ar ôl i un o’r mynachod farw a mynd i’r nefoedd, ymddangosodd i’w ffrind mewn breuddwyd fel y cytunwyd, gan ddweud dau air yn lle un: ‘Totaliter aliter!’ (Mae’n hollol wahanol i’r hyn yr oeddem yn ei feddwl).

Ar un ystyr, roedd gan garfan gymdeithasol freintiedig y Sadwceaid lai o reswm i fod eisiau tragwyddoldeb na’r torfeydd gorthrymedig. Ac eto, wrth wadu bywyd ar ôl marwolaeth, gallent gyfeirio at yr Ysgrythurau Hebraeg, sydd bron yn dawel ar y mater.

Roedd y Sadwceaid a holodd Iesu yn cael trafferth gyda’r syniad o dragwyddoldeb, oherwydd eu bod yn meddwl amdano yn nhermau bywyd fel yr ydym yn ei adnabod yn parhau ad infinitum –  ychydig yn debyg i bobl yn dweud nad oes ganddyn nhw awydd mynd i’r nefoedd, oherwydd nad ydyn nhw awydd eistedd ar gwmwl yn chwarae’r delyn am byth. Mae Iesu, fodd bynnag, yn tynnu sylw nad yw tragwyddoldeb yn union fel y bywyd fel rydym yn ei adnabod: ‘Totaliter aliter’.

Mae Iesu’n eu cyfeirio at gyfamod Duw â’r patriarchiaid. Ni all y cyfamod fod yn ddi-rym o ganlyniad i dranc carfan ddynol gan ei fod wedi’i ymestyn i Israel am byth, ac ni all marwolaeth derfynu perthynas yr unigolyn â Duw chwaith. Y diwrnod y bydd yn rhoi mewn grym ei deyrnas i bawb ei weld, bydd Duw yn codi ei ddilynwyr ffyddlon i fywyd mewn cymdeithas o’r newydd ag Ef. Ef, wedi’r cyfan, yw Duw’r byw.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd y byw, paid â gadael i’m synnwyr cyffredin amharu ar dy realiti di na allaf ei weld.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible