Skip to main content

‘Methu penderfynu beth i'w wneud’: Barnwyr 5.1–31 (21 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Barnwyr 5

Mae ‘Cân Debora’ yn ddathliad mewn pennill o’r fuddugoliaeth fawr a enillodd Debora, Barac a Jael dros elynion Israel. Mae’r rhan fwyaf o ysgolheigion o’r farn mai hon yw’r farddoniaeth Hebraeg gynharaf mewn bodolaeth, yn dyddio efallai o’r ddeuddegfed ganrif CC.

Mae yna rai cliwiau hanesyddol hynod o ddiddorol ynddi. Disgrifir rhagflaenydd Debora fel barnwr, Shamgar, fel methiant (5.6-7). Mae llwythau Reuben, Dan, Gad ac Asher yn cael eu beirniadu am lwfrdra. Mae Meros, tref yn nhiriogaeth Nafftali, wedi’i melltithio oherwydd na ddaeth ei phobl i ‘ymladd brwydr yr ARGLWYDD’ (adnod 23). Ac mae’r salm yn ymhelaethu ar fanylion llofruddiaeth Sisera gan Jael, a hyd yn oed yn y galar sydd ar ddod i’w fam: mae hi’n dal i ddisgwyl iddo ddychwelyd gydag ysbeilion a charcharorion, tra ei fod yn gorwedd yn gelain gyda pheg pabell trwy ei benglog.

Rydym ychydig yn fwy misi heddiw ynglŷn â buddugoliaethau milwrol, ac mae hynny’n briodol – mae Cristnogion yn gwasanaethu Tywysog Tangnefedd, wedi’r cyfan. Ond mae llyfr y Salmau ei hun yn llawn delweddau o Dduw fel llywodraethwr mawr, gorchfygwr nerthol, ac amddiffynnwr y gwan. Beth bynnag rydym yn ei feddwl o ryfel, neu ryfeloedd penodol, ni ddylai’r syniad bod drygioni i’w hymladd a’u gorchfygu fod yn anghyfarwydd i ni. Yn hwyr neu’n hwyrach mae’n rhaid i ni ddewis ein hochr. Yng Nghân Debora condemnir llwyth Reuben am ei fod wedi’u rhannu; roeddent ‘methu penderfynu beth i'w wneud’ (adnodau 15-16). Yn aml, mae’r dewis rhwng da a drwg yn symlach nac yr hoffem feddwl.

Gweddi

Gweddi

Duw, mewn byd dryslyd lle mae da a drwg mewn cystadleuaeth, helpa fi i weld yn glir a dewis yn ddewr. Gad imi fod ar dy ochr di, hyd yn oed pan mae’n anodd neu pan mae yna beryg imi gael fy ngwrthod neu fy nhrechu.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible