Skip to main content

‘Milwr dewr?’: Barnwyr 6.1–12 (22 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Barnwyr 6

Mae stori Gideon yn un cyfoethog a chyffrous, yn llawn digwyddiadau. Mae’r Israeliaid yn cael eu gormesu eto. Mae’n bryd i farnwr arall eu hachub. Mae angel yr ARGLWYDD yn ymddangos i Gideon ac yn dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD gyda ti, filwr dewr’ (adnod 12).

Fodd bynnag, mae’r cyfarchiad yn gomig o amhriodol. Er mwyn osgoi’r Midianiaid, mae Gideon yn dyrnu gwneith, nid mewn man agored lle gallai’r gwynt chwythu’r siffrwd i ffwrdd, ond mewn gwinwasg – cafn mewn craig, efallai tua maint bath bychan. Nid yw’n ymladd, ond yn cuddio. Mae pethau’n gwaethygu: nid oes ganddo hyder ynddo’i hun (adnod 15); pan ddywedir wrtho am ddinistrio allor ei dad i Baal, gyda’r nos y mae’n meiddio ei wneud (adnod 27); a phan mae’n cael yr hyder i ymladd mae’n mynnu cael mwy o brawf y bydd yn ddiogel (adnodau 36-40). Nid yw’n ddewr o gwbl.

Ond efallai mai dyma’r pwynt: yn ei gryfder ei hun, nid yw Gideon yn ffigwr trawiadol iawn o gwbl. Ond mae Duw yn ei annerch nid fel y mae, ond, gyda chymorth Duw, fel y bydd. Yn 1 Corinthiaid 1.26-28, dywed Paul ‘Dewisodd Duw bobl gyffredin yng ngolwg y byd i godi cywilydd ar y pwysigion hynny sy'n dal grym’. Dyna oedd Gideon: yn wan ynddo’i hun, ond wedi’i rymuso gan Dduw.

Mae’r mwyafrif ohonom, meddai Paul, fel hyn: heb lawer o ran galluoedd neu statws naturiol yn perthyn i ni, ond yn ‘filwr dewr’ oherwydd bob Duw gyda ni.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i weld fy hun nid fel yr ydw i, ond fel y gallaf fod yn dy nerth. Diolch am dy Ysbryd, sy’n fy ngalluogi i wneud mwy nag y gallwn ei ddychmygu.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible