Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Deuwn ger dy fron Arglwydd, yn union fel yr ydym ni: dim mwy, dim llai. Fe wnaethost ti ni ar dy ddelwedd dy hun a’n caru i fodolaeth. Felly bydd yn ein plith nawr, yn union fel yr ydym ni: dim mwy, dim llai. Diolchwn i ti Dduw am yr amser hwn heddiw. Amen.
Yn fanwl iawn, cymherir Israel â phriodferch Duw. Ac eto mae hi wedi bod yn anffyddlon dro ar ôl tro, ac wedi chwarae’r butain i lawer o genhedloedd eraill. Mae’r bennod hon wedi’i hysgrifennu mewn iaith debyg iawn i’r gymhariaeth briodferch/putain yn llyfr Hosea.
Cenhadaeth Israel oedd paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodiad Crist ond mae hi wedi methu’n syfrdanol. Mae hi wedi ymwrthod â Duw am dduwiau ffug tra bod hyd yn oed y cenhedloedd eraill yn fwy ffyddlon i’w duwiau eu hunain. Fe wnaeth Israel hyd yn oed aberthu plant i Moloch (adnod 20), a dod a llawer o eilunod cenhedloedd eraill i’r deml. Ni chyflawnodd hyd yn oed wlad Sodom gymaint o erchyllterau ag y gwnaeth Israel mewn perthynas â Duw. Pa mor hir y bydd Israel yn gwerthu ei hun yn y farchnad ac yn gwneud elw o’i chorff?
Dywed Eseciel fod Duw wedi cael digon o odineb Israel ac y bydd yn eu trin fel y maent yn ei haeddu oherwydd eu bod wedi anwybyddu eu haddewidion ac wedi torri’r cyfamod (adnod 59). Ond yn y pen draw, bydd Duw yn sefyll yn gadarn yn ei addewidion i garu ei bobl a mynd â nhw yn ôl i’w galon. Bydd Duw yn maddau i Israel fel y bydd hi’n cofio pwy ddylai ei garu a’i addoli. Bydd Duw yn adfer Israel unwaith eto, ac yn gwneud cyfamod newydd (yn union fel y mae’n addo yn Jeremeia 31.31-34).
Arglwydd cariadus, pan fyddaf yn ddi-ffydd, galwa fi adref. Pan fyddaf yn dy fradychu, tro fy nghalon atat, er mwyn imi edifarhau a cheisio dy gariad a pheidio rhedeg mwyach. Amen.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Fleur Dorrell, Rheolwr Ymgysylltu â’r Ysgrythur Catholig Cymdeithas y Beibl