Skip to main content

‘Mwy na phroffwyd’: Mathew 17.1–13 (6 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, trugarha. Glanha fi. Llonydda fy meddwl. Helpa fi i wrando wrth i ti siarad.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 17

Iechyd a diogelwch mewn perygl. Diogelwch swydd yn atgof pell. Gwahardd cofleidio a chusanu. Nid yw’r byd fel yr oeddem yn ei adnabod. Mae dirgelwch yfory yn bwrw ei gysgod dros heddiw. Mae newid yn frawychus.

Ar ôl treulio peth amser gydag Iesu, mae’n rhaid bod y disgyblion wedi meddwl bod ganddynt syniad eithaf da am yr hyn yr oedd ei wneud, nes iddo ddechrau siarad am ddioddefaint a marw. Lleisiodd Pedr yr hyn yr oedd pawb arall yn ei feddwl: roedd y Meseia ar ei ffodd i’r orsedd, nid y groes, wedi’r cyfan. Cwympodd eu byd –  o ddilyn boi cŵl yn gwneud gwyrthiau ar y ffordd i ogoniant – mewn amrantiad. Roedd rhaid iddynt feddwl eto. Roedd yn rhaid iddynt ddechrau o’r dechrau. Ond yng nghanol eu hargyfwng ffydd, cafodd y disgyblion sicrwydd. 

Mae Trawsnewidiad Iesu yn adleisio Moses yn dringo Mynydd Sinai i dderbyn y Deg Gorchymyn ac yn dychwelyd, ei wyneb yn loyw o’i gyfarfyddiad dwyfol. Mae presenoldeb Elias yn ein hatgoffa o broffwydoliaeth Malachi gan ei gysylltu â diwedd amser. Fel pe bai bod yng nghwmni dau o’r mawrion bob amser yn ddigon, mae’r Iesu’n disgleirio’n fwy, yn llythrennol ac yn drosiadol. Mae’n fwy na phroffwyd.

Wedi’u cynhyrfu gan y rhagolwg o’r groes, eu teimlad ffug o ddiogelwch yn seiliedig ar Feseia gwleidyddol buddugoliaethus wedi mynd, caiff safbwynt y disgyblion am eu meistr ei drawsnewid. Ar Fynydd y Trawsnewidiad, mae argyfwng yn troi’n foment ddiffiniol o wirionedd; mae breuddwydion drylliedig yn ildio i weledigaeth newydd o bwy yw Iesu: Mab Duw.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, yn yr amseroedd ansicr hyn, pan hoffwn iti glicio dy fysedd a datrys y llanast, helpa fi i weld Iesu, gwrando arno a pheidio â bod ofn.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible