Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Yn wreiddiol, un llyfr oedd 1 a 2 Brenhinoedd, felly mae 2 Brenhinoedd yn dechrau o le mae 1 Brenhinoedd yn gorffen. Ym mhennod 1 rydym yn dod ar draws pump o ddynion: Ahaseia y brenin, Elias y proffwyd a thri chapten y fyddin. Mae llinellau olaf 1 Brenhinoedd yn dweud wrthym bopeth sydd angen i ni ei wybod am Ahaseia: ‘Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD’ (1 Brenhinoedd 22.52). Yn llyfr y Brenhinoedd mae tri maen prawf ar gyfer brenin da: yn gyntaf, addoli Duw Israel yn unig; yn ail, cael gwared ag eilunaddoliaeth yn Israel; ac yn drydydd, bod yn ffyddlon i’r cyfamod. Mae Ahaseia yn methu ar bob cyfrif ac yma rydym yn gweld barn Duw.
Ar un ystyr mae pennod 1 yn cyflwyno neges gyffredinol 1 a 2 Brenhinoedd mewn microcosm: brenin drwg sydd wedi troi cefn ar Dduw at eilunod a phroffwyd yn siarad ar ran Duw yn erbyn eilunaddoliaeth ac anghyfiawnder. Mae dau o gapteiniaid y fyddin yn arwain eu dynion at eu marwolaethau trwy fethu a chydnabod pwy oedd Elias mewn gwirionedd. Mae’r trydydd capten yn dysgu’r wers ac yn mynd ar ei liniau mewn gostyngeiddrwydd. Ond geiriau Ahaseia sy’n glynu: ‘Disgrifiwch y dyn i mi’. Roedd y brenin wedi ceisio mewnwelediad gan eilunod, ond mae’n adnabod Elias ar unwaith pan fydd ei negeswyr yn ei ddisgrifio.
Mae ein gweithredodd yn dweud wrthym pwy ydym ni. Pa fath o berson fyddwch chi heddiw?
Duw grasol, bydded i’m gweithredoedd adrodd hanes dy ras a dy ffyddlondeb heddiw. Helpa fi i glywed dy eiriau a dilyn dy wirionedd.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Stuart Noble, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol Cymdeithas y Beibl.