Skip to main content

Pan fydd eilunod yn methu: 1 Brenhinoedd 14.1–17 (10 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Brenhinoedd 14.1–17

Mae’r Brenin Jeroboam wedi gwrthod Duw ac wedi sefydlu addoliad dau lo euraidd mewn ymgais i reoli crefydd ei wlad newydd. Fodd bynnag, pan fydd yn wynebu cwestiynau pwysig bywyd a marwolaeth, mae’n sylweddoli mai dim ond yr ARGLWYDD all ei helpu. Trwy dwyll truenus, mae cael ei wraig i i wisgo cuddwisg ac i chwilio am broffwyd yn Seilo (adnod 2). Nid oes ganddo newyddion da iddi: bydd y mab y maent yn ofni ei golli yn marw, a bydd llinach gyfan Jeroboam yn diflannu (adnod 10).

Mae sinigiaeth Jeroboam am faterion ysbrydol yn diflannu wrth wynebu trasiedi bersonol. Nid oes ateb gan ei loi euraidd. Roedd yn credu y gallai ddefnyddio crefydd at ei ddibenion ei hun, ond mae realiti llym bywyd yn ei wrthwynebu.

Dywedir weithiau nad oes ‘unrhyw anffyddwyr mewn tyllau llwynogod’: pam maent mewn perygl, mae hyd yn oed anghredinwyr rhonc yn troi at weddi. Mae rhywfaint o wirionedd yn hyn: mae llawer o bobl sy’n ddifater neu’n ddirmygus tuag at ffydd yn teimlo eu bod yn cael eu tynnu ati ar adegau o argyfwng – ac mae llawer o gredinwyr llugoer yn gweld bod eu ffydd yn cael ei hailgynnau o dan straen. Oherwydd pechod ei gŵr, nid yw gwraig Jeroboam yn clywed dim ond barn gan broffwydi Duw. Hi yw’r eithriad, serch hynny; i’r mwyafrif ohonom, dim ots pa mor bell oddi wrtho y gallem fod, ‘Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sy'n galw arno; at bawb sy'n ddidwyll pan maen nhw'n galw arno’ (Salm 145.18).

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am fod yn agos ataf hyd yn oed pan fyddaf yn teimlo’n bell oddi wrthyt. Diolch i ti am dy ras wrth glywed fy ngalwad am help a pheidio byth â chefnu arnaf.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible