Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Mae proffwyd o Jwda wedi wynebu brenin newydd Israel, Jeroboam, ac wedi haeru awdurdod Duw drosto. Fel symbol o wrthodiad Duw i drefn Jeroboam, ni ddylai derbyn lletygarwch ar ei ffordd adref. Serch hynny, mae hen broffwyd ffôl Israelaidd yn penderfynu ei fod yn gwybod yn well. Allan o chwilfrydedd neu’r awydd i ymdrochi yng ngogoniant adlewyrchedig y dyn dewr hwn, mae’n honni ar gam fod Duw wedi dweud wrtho am fynd ag ef adref. Yn rhy hwyr, mae’n sylweddoli’r hyn y mae wedi’i wneud (adnodau 20-22).
Mae gan y ddau broffwyd wers i ni. Fel yr hen Israeliad, rydym yn cael ein temtio i weld pethau’r ffordd rydym am eu gweld ac i ddychmygu bod Duw yn cymeradwyo ein dewisiadau. Pan ddefnyddiwn iaith ‘ysbrydol’ neu safle awdurdod ysbrydol i gael ein ffordd ein hunain, rydym yn gallu gwneud difrod ofnadwy. Efallai na ydym yn bwriadu niwed – fel yr hen broffwyd – ond mae hunanoldeb a ffolineb yn niweidiol beth bynnag.
Roedd gan y proffwyd Jwdeaidd orchymyn clir gan Dduw, ond caniataodd iddo gael ei ddargyfeirio o’i lwybr gan ddadleuon rhywun arall. Nid yw’n syndod: roedd gan yr Israeliad yr holl eiriau cywir, ac roedd parch dyledus iddo oherwydd ei oedran a’i statws. Ond roedd yn dal i fod yn gelwyddgi. Dylem osgoi’r math o haerllugrwydd sy’n gwrthod gwrando ar gyngor. Ond dylem fod â dewrder ein hargyhoeddiadau, hefyd, a gwybod pryd i wrthod cael ein dargyfeirio o’r dasg y mae Duw wedi’i rhoi inni – er gwaethaf y rhai sy’n ceisio ein darbwyllo fel arall.
Duw, rho ddirnadaeth imi wybod pryd rwyt ti’n siarad trwy bobl eraill. Cadw fi rhag haerllugrwydd, ond cadw fy mhwrpas yn gadarn.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.