Skip to main content

Pobl fel ni: Luc 4.16–30 (19 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 4.16–30

Roedd ymddangosiad Iesu yn y synagog yn Nasareth yn nodi gwir ddechrau ei weinidogaeth. Mae’n nodi ei faniffesto: newyddion da i’r tlodion, rhyddid i’r carcharorion, golwg i’r deillion, blwydd ffafr Duw (adnodau 18-19). Mae pethau’n dda hyd yn hyn; byddai’r bobl ymysg yr oedd wedi cael ei fagu yn eu plith wedi cymeradwyo, oherwydd gallent fod wedi tybio ei fod yn siarad amdanyn nhw. Mae pethau’n troi’n sur yn gyflym, pan mae’n tynnu sylw at y ffaith bod ffafr Duw wedi’i dangos yn gyson i’r rhai nad oedd yn Iddewon, i bobl o’r tu allan.

Pan rydym yn darllen yr adnodau hyn fel Cristnogion, mae’n bwysig iawn cydnabod lle rydym ni yn y stori. Rydym yn cymryd bod y ‘newyddion da’ i ni, ac rydym yn ddiolchgar am drugaredd Duw tuag atom. Ond mae’n debyg bod y mwyafrif ohonom ni’n bobl ‘ar y tu fewn’; efallai ein bod ni wedi cael ein magu yn dysgu am Iesu, a’i weld fel ‘un ohonom ni’. Hynny yw, mae’n debyg mai ni yw’r bobl yn y synagog, yn gwrando’n gymeradwyol tra mae’n ymddangos ei fod yn dweud pethau yr ydym am eu clywed – ac efallai’n dychryn pan fydd yn dechrau dweud wrthym bethau nad ydym am eu clywed.

Trwy’r Efengylau, mae Teyrnas Duw ar gyfer y rhai o’r tu allan. Y demtasiwn i bobl ar y tu fewn yw tybio bod Duw eisiau eu gwneud nhw fel ni. Nid dyna’r pwynt mewn gwirionedd. Mae’r efengyl yr un mor heriol i ‘ni’ ag ydyw iddyn nhw – mae’n anoddach i ni weld sut. Efallai y gallem ddechrau trwy wrando ar leisiau pobl sy’n wahanol ni. Wedi’r cyfan, y nhw, nid ni, yn aml yw arwyr straeon yr Efengyl.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch i ti am fy ngalw i berthynas ag Iesu Grist. Helpa fi byth i dybio fy mod wedi cyrraedd, a does gen i ddim byd ar ôl i’w ddysgu. Agor fy nghalon i eraill, ac agor fy nghlustiau i glywed eu straeon.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible