Skip to main content

‘Rhaid iddo gael ei ladd! Dydy e ddim yn haeddu byw!’: Actau 22.6–23 (3 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Actau 22

Mae Paul newydd gael ei achub rhag perygl mawr: mae torf bron wedi ei ladd heb brawf ac mae arweinydd Rhufeinig wedi ei achub, sydd – gyda’r perygl o gychwyn y terfysg eto – yn rhoi caniatâd iddo annerch y dorf elyniaethus.

Yn y byd hynafol, roedd y sgroliau papurfrwyn a ysgrifennwyd llyfrau arnynt yn werthfawr ac roedd copïo yn cymryd llawer o amser, felly byddem yn disgwyl i awduron gael eu disgyblu yn yr hyn roedd y sgroliau yn ei gynnwys. Mae’n ddiddorol iawn felly bod Luc yn cynnwys stori tröedigaeth Paul ddim llai na thair gwaith (Actau 9.1-19, yma, ac Actau 26.12-18) – arwydd o bwysigrwydd y stori. Mae pob dehongliad ychydig yn wahanol, hefyd – mae’n werth cofio wrth feddwl am sut mae’r Beibl yn adrodd straeon, gan ddewis ac amlygu gwahanol elfennau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.

Gwrandawodd y dorf ar Paul nes iddo, yn eu barn nhw, groesi llinell. Roeddent wedi terfysgu oherwydd eu bod nhw wedi camfeddwl ei fod wedi halogi’r Deml trwy ddod â Chenhedloedd i mewn iddi. Pan honnodd fod Duw wedi dweud wrtho y byddai’n ei anfon at y Cenhedloedd (adnod 21) fe’u cythruddwyd eto.

Credai’r dorf, ar ryw lefel sylfaenol, mai eu Duw ‘nhw’ oedd Ef. Nid allent oddef meddwl am ei rannu. Y syniad chwyldroadol a gyflwynodd Paul oedd bod Duw, yn Iesu, wedi gwneud ei hun yn hysbys i’r byd i gyd. Efallai bod credinwyr sydd wedi buddsoddi’n ddwfn yn eu ffydd a’r ffordd maent wastad wedi gwneud pethau yn cael eu denu bob amser i feddwl eu bod nhw’n ‘berchen’ arno. Mae’r Beibl yn dweud wrthym nad ydym: mae’r Efengyl yn newyddion da i bawb.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i gofio nad yw fy ffydd i mi yn unig, ond i’w rannu ag eraill. Cadw fi rhag bod yn amddiffynnol pan fydd fy rhagdybiaethau yn cael eu herio, a chadw fi rhag bod yn rhwystr i ffydd pobl eraill.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible