Skip to main content

Rhoddaf fuddugoliaeth i chi: Barnwyr 4.1–24 (20 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Barnwyr 4

Mae’r Beibl yn aml yn ein synnu. Er bod hawl merched i allu gwasanaethu fel arweinwyr ar delerau cyfartal â dynion wedi ei ymladd yn danbaid ar gyfer ein hoes ni, yn Barnwyr 4 cymerir hyn yn ganiataol – a hyn ar adeg pan rydym yn tueddu i feddwl mai dynion oedd wrth y llyw. Roedd Debora yn broffwyd a alwyd gan Dduw i fod yn farnwr; arferai ‘eistedd i farnu achosion pobl Israel dan Goeden Balmwydd’ a byddai pobl Israel ‘yn dod ati yno, i ofyn iddi setlo achosion rhyngddyn nhw’ (adnod 5) Yr hyn oedd yn cyfrif oedd ei galwad nid ei rhywedd. Mae gan Barac, arweinydd rhyfel y bobl, gymaint o feddwl ohoni nes ei fod yn gwrthod mynd allan i frwydr oni bai ei bod hi yn mynd gydag ef (adnod 8). Daeth ergyd-farwolaeth Sisera, cadfridog Canaan, gan ferch arall, Jael. (adnod 21).

Serch hynny, ni ddylem ddychmygu fod hyn i gyd yn ymwneud a ‘hawliau’; mae hynny yn fath wahanol o drafodaeth. Pwynt y stori yw bod Duw yn dewis pwy bynnag y mae’n dymuno i gyflawni ei ddibenion, ac yn eu cyfarparu yn unol â hynny – gyda doethineb ac awdurdod yn achos Debora, neu ddewrder a pheg pabell yn achos Jael. Wrth gwrs mae eu straeon yn rhan o sgyrsiau ehangach am rywedd y mae rhai rhannau o’r Eglwys yn dal i’w cael heddiw, ond yn anad dim, buddugoliaeth Duw yw hwn. Mae gelyn creulon a gormesol yn cael ei lethu gan bobl sydd wedi gwrando ar lais ei broffwyd ac wedi canfod y dewrder i weithredu. Hebddo Ef ni allent fod wedi gwneud dim. Gydag Ef, gall unrhyw un wneud unrhyw beth.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch iti am alw a chyfarparu merched a dynion i dy wasanaethu. Helpa fi i glywed dy lais ac i ymateb i dy alwad; i ddilyn dy arweinwyr, a bod yn ddigon dewr i weithredu.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible