Skip to main content

‘Rhwygwch eich calonnau, yn lle dim ond rhwygo'ch dillad’: Joel 2 (9 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Joel 2

Yn y bennod heddiw mae Joel yn edrych i’r dyfodol o drychineb y dydd, gan ei ddychmygu fel rhagolwg o’r dyfarniad sydd i ddod. Nid yw perthynas Israel â Duw fel y dylai fod ac mae’n fusnes difrifol sy’n gofyn am weithredu ar frys.

Yn adnodau 1-11, mae’r olygfa’n datblygu mewn modd sinematig. Chwythwch utgorn i seinio’r larwm – mae byddin ar y gorwel! A byddin yr ARGLWYDD ei hun ydyw, yn barod i gyflawni ei orchmynion gydag awdurdod, pŵer ac effeithlonrwydd didostur.

‘Ydy, mae dydd yr ARGLWYDD yn ddiwrnod mawr; mae'n ddychrynllyd! – Pa obaith sydd i unrhyw un?’ (adnod 11). Rydym wedi ein gadael heb amheuaeth na fydd neb yn goroesi.

Ond dim ond pan rydym yn meddwl bod y fwyell yn mynd i ddisgyn, mae Duw yn dangos trugaredd. ‘Dydy hi ddim yn rhy hwyr. Trowch yn ôl ata i o ddifri. Ewch heb fwyd. Trowch ata i yn eich dagrau, a galaru am eich ymddygiad. Rhwygwch eich calonnau, yn lle dim ond rhwygo'ch dillad’ (adnod 12-13a). Mae’n achubiaeth hollol anhaeddiannol, felly pam mae Duw yn ei gynnig?

Yn adnod 13b: Mae Duw ‘mor garedig a thrugarog; mor amyneddgar ac yn anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi’. Mae Joel yn adleisio Exodus 34.6-7, gan atgoffa’r bobl o’r modd y gwnaeth Duw arbed yr Israeliad wrth addoli llo euraidd yn yr anialwch yn ei le. Mae’n hollol unol â’i gymeriad a’i hanes.

Mae adnodau 18 ymlaen yn disgrifio tosturi Duw ar ei dir a phobl edifeiriol. Mae’n ddarlun o adferiad llwyr a bendith helaeth. Nid yn unig hynny, ond mae’r diwrnod yn dod, pan fydd yn tywallt ei Ysbryd ar bob cnawd (adnod 28) a ‘Bydd pwy bynnag sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub’. Trwy ras anhygoel, anhaeddiannol Duw bydd y ‘bobl wedi'u galw gan yr ARGLWYDD’ yn dianc rhag barn derfynol (adnod 32)!

Gweddi

Gweddi

Diolch Arglwydd Iesu am gyflawni’r addewidion yn adnodau heddiw trwy farw yn fy lle ac wynebu’r dyfarniad rwy’n ei haeddu. Diolch i ti am dy Ysbryd yn byw ynof, gan fy nhrawsnewid a fy ngalluogi i garu Duw â’m holl galon, enaid, meddwl a nerth.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible