Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.
Darllenwch rhain yn Gymraeg.Arglwydd, paratô fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi'n sicr o'th ddibenion cariadus imi, a llefara i'm bywyd heddiw.
Yn 1999, cyrhaeddodd Baz Lurhmann, y cyfarwyddwr ffilmiau, frig y siartiau gyda 'Everybody's free to wear sunscreen': perfformiad geiriau llafar a oedd yn gosod erthygl Mary Schmich i gerddoriaeth. Mae'r erthygl, ar ffurf ffug araith i raddedigion, yn cyfarch 'Boneddigion a boneddigesau dosbarth '97' ac mae'n llawn o gynghorion bywyd – nid lleiaf, 'gwisgwch eli haul'.
Mae hwn yn bwynt cyfeirio defnyddiol ar gyfer salm heddiw. Os ydych chi'n gyfarwydd â mawl caneuon fel Salm 95 neu gri ingol galarnadau fel Salm 22, efallai fod Salm 49 yn swnio fel tipyn o eithriad. Dydy Salm 49 ddim fel petai'n cyfarch Duw ond yn hytrach bobl eraill, mewn gwirionedd, ‘pawb drwy'r byd i gyd’ (adnod 1)! Mae hyn oherwydd mai un o'n salmau 'doethineb' yw hi, ac efallai ichi sylwi ar ambell un arall wrth ddarllen hyd yma.
Mae salm heddiw eisiau ein hatgoffa ni na allwch chi ymddiried mewn arian – rhywbeth sydd wir yn werth inni ei gofio ar adeg fel hon. Os yw eich sefyllfa ariannol yn hollol ansicr gan ichi golli eich swydd neu gael eich rhoi ar ffyrlo, neu os ydych chi'n fwy cyfforddus eich byd, gyda llai o wariant a dim newid i'ch incwm, yr un yw doethineb y salmydd: dydy hon ddim yn adeg i ymddiried mewn arian. Un peth dibynadwy yn unig y gallwn ymddiried ynddo, a Duw yw hwnnw.
Arglwydd, lle mae gweld mantolenni banc neu eiddo yn fy ngwneud i'n ansicr neu'n falch, helpa fi i beidio â chael fy nhemtio i feddwl mai arian sydd â'r atebion sydd eu hangen arnaf ond i adnabod y llawenydd o ddaw o ymddiried ynot ti.
Mae Helen Crawford yn Rheolwr Profiad Beibl Digidol Cymdeithas y Beibl