Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.
Darllenwch rhain yn Gymraeg.Arglwydd, paratô fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi'n sicr o'th ddibenion cariadus imi, a llefara i'm bywyd heddiw.
Er bod gweddi i gael ein hamddiffyn rhag 'gelynion' yn ymddangos yn rhan anghyfarwydd o'n salmau cân, mae'n debygol nad yw'n brofiad anghyffredin i lawer o bobl ledled y byd heddiw, yn enwedig mewn mannau lle mae pobl yn cael eu herlid. Ac ynghanol yr argyfwng coronafeirws presennol, efallai ein bod yn meddwl mwy am farwoldeb a bod salwch, ansicrwydd gwaith ac ofn i gyd yn ymddangos yn elynion inni.
Felly pa gysur gawn ni yng ngeiriau'r salm hon? Ble rydyn ni'n edrych pan fyddwn wedi ein hamgylchynu gan ‘elyn’ neu'n teimlo ein bod wedi ein caethiwo ganddo – boed hwnnw'n salwch neu'n gleber di-sail neu'n fygythiad gwirioneddol i'n bywydau?
Mae'r salmydd yn troi at Dduw er mwyn cwyno, ond nid dyna'r cyfan. Wrth edrych yn ôl ar bopeth y mae Duw wedi'i wneud drosto, mae'n dewis cofio daioni Duw. Wrth gofio'r ffaith bod Duw hefyd wedi achub yn y gorffennol (adnod 7) daw adleisiau o'r geiriau o'r emyn Pererin Wyf: 'Mi wyraf weithiau ar y dde, Ac ar yr aswy law; Am hynny arwain, gam a cham, Fi i'r baradwys draw.'
Dad, diolch iti am fy arwain drwy bob math o heriau, beth bynnag fu’n elyn imi. Helpa fi i gofio dy ffyddlondeb imi pan deimlaf fy mod yn cael fy mygwth.
Mae Helen Crawford yn Rheolwr Profiad Beibl Digidol Cymdeithas y Beibl