Skip to main content

Sicrwydd barn yr ARGLWYDD: Eseciel 14 (10 Medi 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Deuwn ger dy fron Arglwydd, yn union fel yr ydym ni: dim mwy, dim llai. Fe wnaethost ti ni ar dy ddelwedd dy hun a’n caru i fodolaeth. Felly bydd yn ein plith nawr, yn union fel yr ydym ni: dim mwy, dim llai. Diolchwn i ti Dduw am yr amser hwn heddiw. Amen.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseciel 14

Mae Duw yn ceryddu’r rhai sy’n credu y gallent ei ddefnyddio fel rhagfynegydd, yn enwedig y rhai sy’n galw eu hunain yn henuriaid, heb hyd yn oed ei barchu’n ddigonol i’w addoli a’i ganmol fel eu Duw.

Mae Duw’n cymryd cyfrifoldeb am bopeth sy’n digwydd, yn weithredoedd cyfiawn ac yn weithredoedd drwg, heb gyflawni drwg ei hun. Gan fod gan Dduw bob awdurdod, ef sy’n gyfrifol yn y pen draw am bopeth sy’n digwydd, hyd yn oed os nad yw ef ei hun yn ei wneud. Felly fel hyn, mae Duw yn hawlio cyfrifoldeb am dwyll proffwyd (adnod 9) ond rydym yn gweld sut mae Duw yn ateb y dyn â gweithredoedd ac nid geiriau yn unig. Bydd Duw yn anfon barnau a chosbau ar y dyn hwnnw am ei bechodau. Fe’n hatgoffir o syniad tebyg am Dduw yn Amos 3.6: ‘Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinas heb i'r ARGLWYDD adael i'r peth ddigwydd?’ Dyma oedd y patrwm Hebraeg o briodoli i weithred uniongyrchol Duw yr hyn a ganiataodd yn unig.

Mae gweledigaeth Eseciel yn mynd ymhellach: hyd yn oed pe bai Noa, Job a Daniel yn pledio dros Dŷ Israel, ni fyddent yn gallu ei achub. Roedd Noa, Job a Daniel yn enwog am eu cyfiawnder gerbron Duw ond ni all eu cyfiawnder nhw achub Israel. Bydd Duw yn galw pobl Israel i gyfrif. Mae enw Eseciel yn dynodi ‘cryf yw Duw’ neu ‘y mae Duw yn ei wneud yn gryf’ a thrwyddo ef mae Duw yn datgelu cryfder ei gymeriad ei hun yn ogystal â’i bŵer. Serch hynny, mae nerth Duw bob amser yno i achub y ffyddloniaid yn hytrach na’u dinistrio, fel mae gelynion Israel yn mynnu gwneud.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd cariadus, gad imi ddod o hyd i ti yn yr holl nerth sydd ei angen arnaf i fyw. Pan fyddaf yn wan neu’n cael fy nghyhuddo gan fy ngelynion, gad imi ddal gafael arnat a chael fy achub gan dy gariad nerthol. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Fleur Dorrell, Rheolwr Ymgysylltu â’r Ysgrythur Catholig Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible