Skip to main content

Swper yr Arglwydd: 1 Corinthiaid 11.17–33 (Chwefror 24, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Corinthiaid 11.17–33

Mae Swper yr Arglwydd, Cymun neu Offeren, i fod y pwynt lle mae'r Eglwys gyfan yn dod at ei gilydd. Mae nifer yr enwau ar ei gyfer yn dangos mai dyna'r pwynt yr ydym wedi ymrannu fwyaf, gan fod gwahanol draddodiadau a diwinyddiaeth wedi tyfu o'i gwmpas.

Yng Nghorinth roeddent yn wynebu problem benodol: roedd Swper yr Arglwydd yn rhan o bryd bwyd cymunedol. Roedd y rhai a allai gyrraedd yn gynnar - y Cristnogion cyfoethocaf efallai - yn bwyta ac yn yfed popeth cyn y rhai a gyrhaeddodd yn hwyr, a allai fod yn gaethweision neu'n weithwyr, orffen. Nid Swper yr Arglwydd yw hwn o gwbl, meddai Paul (adnod 20): nid yw'n uno, mae'n ymrannu.

Mae ei eiriau'n bwerus ac yn heriol, gan ddwyn i gof eiriau Amos: 'Mae'r Arglwydd yn dweud, ‘Dw i'n casáu eich gwyliau crefyddol chi, ac yn eu diystyru nhw' (5.21). Maent yn dweud wrthym ni waeth pa mor ddefosiynol y gallem ymddangos, pa mor berffaith y gallai ein gwasanaethau fod a pha mor hyfryd y gallem ganu, os nad ydym yn byw'n gariadus gyda'n chwiorydd a'n brodyr yng Nghrist mae ein haddoliad dan fygythiad.

Mae'n hawdd iawn mynd trwy'r arferion o fynd i'r eglwys heb gydnabod go iawn oblygiadau bod yn ddisgybl i Iesu. Mae Paul yn dweud wrthym am fod yn ofalus, oherwydd os gwnawn hynny byddwn yn dod â 'barn' arnom ein hunain (adnod 29).

Beth bynnag rydym yn ei alw, pan rydym yn rhannu bara a gwin gyda'n gilydd rydym i fod yn ymwybodol iawn o Grist, ac yn ymwybodol iawn o'n gilydd.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am bobl yr wyf yn perthyn iddynt. Maddau imi pan fyddaf yn eu cael yn dreth arnaf neu pan fyddaf yn eu cymryd yn ganiataol, a helpa fi i'w derbyn fel dy rodd rasol i mi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible