Skip to main content

Teulu yn gyntaf?: Mathew 12.46–50 (1 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 12

Mae arwyddion yn yr Efengylau bod teulu Iesu yn poeni am ei weinidogaeth a hyd yn oed yn elyniaethus tuag ati. Efallai eu bod wedi dod ato ar yr achlysur hwn i geisio newid ei feddwl ynghylch ei genhadaeth. Mae ei eiriau am deulu yn eithaf syfrdanol hyd yn oed heddiw, gyda theuluoedd yn bob math a chyfuniad ac mae cysylltiadau yn aml yn wannach. Yn y dyddiau hynny byddai ei eiriau wedi bod yn ysgytwol. Mae ei ddisgyblion yn agosach at ei gilydd nag ydynt at eu cysylltiadau gwaed, meddai: ‘Mae pwy bynnag sy'n gwneud beth mae fy Nhad nefol eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi’ (adnod 50); yn amlwg, roedd Joseff erbyn hyn wedi marw. 

Ni ddylem ddychmygu bod Iesu’n tanseilio pwysigrwydd teulu yma. Mewn man arall mae’n condemnio’r rhai sy’n esgeuluso eu dyletswyddau teuluol yn enw crefydd (Marc 7.9-13). Ond mae’n defnyddio arddull rethregol Ddwyreiniol i wneud pwynt: Duw sy’n dod yn gyntaf, ac mae’r rhai sy’n gwneud ewyllys Duw – gan gredu yn Iesu a’i ddilyn fel Meseia – yn deulu newydd, wedi’i glymu ynghyd â chysylltiadau na ellir eu torri. Mewn rhai amgylchiadau, gallai’r ffydd hon achosi gwrthdaro â theulu dynol. Efallai y bydd sefyllfaoedd yn codi lle mae angen llawer o ddoethineb a gras arnom – a dylai eglwysi fod yn sensitif iawn i hyn, a pheidio byth a rhoi pwysau ar gredinwyr newydd i weithredu mewn ffyrdd sy’n creu tensiynau diangen gyda’u teuluoedd. Fodd bynnag, er bod dywediad bod ‘gwaed yn dewach na dŵr’ – sy’n golygu bod cysylltiadau teuluol yn dod o flaen popeth arall – mae dŵr bedydd yn dewach na gwaed.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i werthfawrogi fy mrodyr a chwiorydd yng Nghrist, a’u gweld fel fy nheulu. Diolch am ddod a mi i gymuned newydd; helpa fi i fod yn driw, yn ffyddlon ac yn gariadus.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible