Skip to main content

Ti’n sy’n dweud: Mathew 27.11–14 (16 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 27

Ar ôl cael ei fradychu, mae Iesu’n cael ei ‘roi ar brawf’ gan y prif offeiriaid a’r arweinwyr, sy’n benderfynol y dylai farw. Gan nad oes ganddynt awdurdod i’w ddienyddio, mae angen caniatâd y llywodraethwr Rhufeinig, Pontius Pilat. ‘Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?’ (adnod 11). Mae ateb  Iesu yn ddiddorol iawn: yn y fersiwn Groeg dywed yn syml, ‘Ti sy’n dweud’. Pe bai wedi dweud ‘Ie’, ni fyddai ei ateb wedi bod yn anghywir, ond byddai wedi bod yn gamarweiniol: nid oedd yn chwyldroadwr daearol. Pe bai wedi dweud, ‘Na’, byddai hynny wedi bod yr un mor gamarweiniol: ef yw Brenin ac Arglwydd pawb. Hyd yn oed ar yr eiliad dyngedfennol hon o berygl ofnadwy, mae’n dal i reoli; nid yw’r rhai sydd wedi ceisio ei ddal allan erioed wedi llwyddo.

Efallai bod rhywbeth arall yma hefyd, serch hynny. Nid yw’n ceisio perswadio Pilat na’i gyhuddwyr o unrhyw beth; ‘Ond pan oedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr yn cyflwyno eu hachos yn ei erbyn, roedd Iesu'n gwrthod ateb’ (adnod 12). Mae’r amser ar gyfer hynny wedi mynd heibio: nawr mae’n bryd i bobl benderfynu.

Yn hwyr neu’n hwyrach, wrth inni ddod i adnabod Iesu trwy weddi neu ddarllen ein Beiblau neu dreulio amser gyda’i bobl, rydym i gyd yn wynebu penderfyniad: pwy ydym ni’n meddwl ydyw? Ni all unrhyw un ateb y cwestiwn hwnnw drosom; mae’n rhaid i ni ddweud beth yr ydym yn ei feddwl, gan farnu dros ein hunain ar sail y dystiolaeth. Mae’r ‘Ti’n sy’n dweud’ yn her i ni hefyd. 

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i ddewis Crist, nid unwaith yn unig ond bob dydd. Boed iddo fod yn frenin fy mywyd, nawr ac am byth.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible