Skip to main content

Trafferth yn Jerwsalem: Actau 21.27–40 (2 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Actau 21

Yn Actau 21 mae Paul yn teithio i Jerwsalem, er gwaethaf rhybudd y broffwydoliaeth y byddai’n cael ei rwymo a’i gam-drin yno. Fel y disgwylir, pan ddaw i Jerwsalem cyhuddir ef o addysgu y dylai Iddewon roi’r gorau i ddilyn deddfau ac arferion Iddewig. Nid oedd hyn yn wir, ond roedd yn ddigon i gynhyrfu’r ddinas. Mae Paul yn cael ei gipio, ei lusgo o’r deml ac mae mewn perygl o gael ei guro i farwolaeth.

Mae’r sôn am yr aflonyddwch yn cyrraedd capten y milwyr Rhufeinig yn Jerwsalem. Mae ef a’i ddynion yn rhuthro yno ac arestio Paul, gan fynd ag ef i’w barics. I ffwrdd o ddryswch a chreulondeb y dorf, mae Paul yn gallu egluro pwy ydyw, Iddew, ac mae’n gofyn am ganiatâd i siarad â’r dorf.

Mae Paul yn dangos ei dreftadaeth a’i hunaniaeth fel dyn Iddewig. Nid oedd wedi bod yn annog y Cristnogion Iddewig i gefnu ar eu hunaniaethau, ond roedd wedi bod yn eu haddysgu nad oedd y deddfau mor bwysig y dylai eu cynnal fod yn rhwystr i Genhedloedd ddod i gredu yn yr Iesu. Mi wnaeth Paul gydnabod mai iachawdwriaeth trwy’r Iesu oedd y peth pwysicaf, ac roedd yn barod i roi popeth yn y fantol er mwyn yr efengyl, hyd yn oed ei ddiogelwch ei hun wrth ddychwelyd i Jerwsalem.

Y cwestiwn yw, faint ydym ni yn barod i fentro er mwyn Duw. Amddiffynnodd Duw Paul yn ystod llawer o sefyllfaoedd peryglus yn ei weinidogaeth. Gall llawer o Gristnogion dystio i’w amddiffyniad heddiw.

Gweddi

Gweddi

Annwyl Dduw, diolch dy fod yn fy amddiffyn. Helpa fi i weld a oes unrhyw beth yn fy mywyd na fyddwn yn fodlon ei adael pe byddet yn fy ngalw. Helpa fi i roi fy ymddiriedaeth ynddot ti cyn unrhyw beth arall.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Hannah Stevens, aelod o dîm Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible