Skip to main content

Trap ydoedd: Barnwyr 8.22–28 (24 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Barnwyr 8

Nid oes diweddglo hapus i stori Gideon. Mae’r gwaith clirio yn gweld yr Israeliaid anfoddog yn cael eu tawelu, Israeliad anghydweithredol yn cael eu cosbi ac arweinwyr y Midianiaid a gipiwyd yn cael eu dienyddio. Mae Gideon yn gweithredu’n ddoeth ac – o ystyried yr amseroedd y bu’n byw ynddo – gydag annhosturi priodol. Efallai mai ef yw’r doethaf oll pan fydd yn gwrthod y frenhiniaeth y mae’r bobl yn ei gynnig iddo, gan ddweud, ‘Yr ARGLWYDD ydy'ch brenin chi’ (adnod 23).

Petai’r stori ond wedi gorffen pryd hynny. Fodd bynnag, mewn tro rhyfeddol, mae’n gwneud eilun allan o’r aur a gasglwyd oddi wrth ei elynion gorchfygedig. ‘Ond dechreuodd pobl Israel ei haddoli, ac roedd hyd yn oed Gideon a'i deulu wedi syrthio i'r trap!’ (adnod 27).

Nid ydym yn cael unrhyw fath o fewnwelediad i feddwl Gideon. Dylem gofio, serch hynny, fod popeth yn oes y barnwyr yn llawer mwy dryslyd nag yr oedd i ddod yn hwyrach; roedd llinellau moesol, moesegol a chrefyddol yn aneglur. Mae’n ymddangos bod Gideon wedi meddwl bod rhyw fath o ddelwedd wedi’i gwneud o aur wedi’i gipio yn deyrnged briodol i Dduw Israel. Nid oedd.

Mae’n ymddangos bod Gideon wedi wynebu ei berygl mwyaf adeg ei fuddugoliaeth. Efallai mai hunanhyder buddugwr ydoedd, mewn cyferbyniad â’r ofn a’r hunan-amheuaeth a deimlai cyn i’w frwydrau ddechrau. Yr adeg hynny, dibynnodd ar Dduw a siarad ag ef; wedi hynny, nid yw’n trafferthu.

Ac efallai byddwn yn wynebu adegau ein hunain o berygl, nid pan fydd amseroedd yn anodd ac rydym yn gwybod bod angen Duw arnon, ond pan mae pethau’n mynd yn dda ac rydym yn meddwl nad ydym ei angen.

Gweddi

Gweddi

Duw, cadw fi rhag meddwl mai fy sy’n gwybod orau. Cadw fi wedi fy ngwreiddio yn dy air ac yn gwrando’n astud ar dy lais.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible