Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Pan ddechreuodd rhai o’r Cenhedloedd (neu bobl nad oeddent yn Iddewon) gredu yng Nghrist, mynnodd rhai o’r credinwyr Iddewig fod raid iddynt gadw arferion Iddewig fel enwaediad er mwyn cael eu hachub. Roedd llawer yr adeg hon yn gweld Iesu fel gwaredwr ac achubwr y bobl Iddewig yn benodol felly roeddent yn credu bod yn rhaid i Genhedloedd ddod yn Iddewig yn gyntaf cyn y gallent ddod yn Gristnogion.
Roedd Paul a Barnabas yn dadlau yn erbyn hyn gan eu bod yn cydnabod bod ei wneud yn ofynnol i rywun gadw’r deddfau Iddewig er mwyn cael eu hachub yn gwneud iachawdwriaeth yn ddibynnol ar weithredoedd – ar rywbeth y mae pobl yn ei wneud – tra eu bod wedi dod i ddeall bod aberth Iesu’n ddigonol ar gyfer iachawdwriaeth. Hwn oedd yr unig beth oedd ei angen ac fe’i rhoddwyd gan Dduw yn ei ras. Mae hyn yn golygu nad oes angen i berson gadw at ddeddfau Iddewig i gael eu hachub, felly gellid achub Cenhedloedd heb fod angen iddynt ddod yn Iddewon yn gyntaf.
Gall diffyg dealltwriaeth o ras Duw ein harwain i boeni am ein hiachawdwriaeth ein hunain pan fyddwn yn methu â gwneud y pethau y mae Duw yn gofyn gennym yn y Beibl. Fodd bynnag, mae angen i ni gofio bod ein hiachawdwriaeth ninnau’n annibynnol o’n gweithredoedd – yn union fel na fyddai’r Cenhedloedd yn peidio â chael eu hachub pe na baent yn dilyn arferion Iddewig, ni fyddem yn peidio â chael ein hachub hyd yn oed os ydym yn methu. Mae’r ffaith i Dduw ein hachub trwy ei ras yn rhyddhaol.
Annwyl Dduw, diolch bod dy ras yn ddigonol imi gael fy achub. Diolch dy fod eisoes wedi talu’r pris am fy mhechod ac nad yw fy iachawdwriaeth yn dibynnu ar yr hyn rwy’n ei wneud neu ddim yn ei wneud.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Hannah Stevens, aelod o dîm Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl