Skip to main content

Tyfu gyda’n gilydd: Mathew 13.24–30 (2 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 13

Dyma ddameg arall am Deyrnas Nefoedd. Mae’r byd yn llawn o bethau cymysg iawn: mae yna dda a drwg, llawenydd a thristwch, pleser a phoen. Nid yw pobl dda yn cael yr hyn y maent yn ei haeddu, ac nid yw pobl ddrwg chwaith – mae’r cyfan weithiau’n ymddangos ychydig ar hap. Ond dywed Iesu fod barn yn dod ac un diwrnod bydd cyfiawnder i bawb.

Felly ar un lefel mae’r ddameg hon i fod i gysuro’r rhai sy’n galaru neu sy’n gynddeiriog yn erbyn ffordd y byd. “Pam mae pobl ddrwg yn llwyddo?” gofynnodd Jeremeia (12.1); byddem i gyd yn hoffi gwybod yr ateb. Mae Duw yn gwybod, a bydd rhaid rhoi cyfrif – ‘Wedyn, pan ddaw eu Tad nefol i deyrnasu, bydd y bobl  wnaeth beth sy'n iawn yn disgleirio fel yr haul’ (Mathew 13.43).  

Ond mae yna ffordd arall o ddarllen hwn hefyd; mae hefyd yn ddarn o ddoethineb ymarferol. Rhaid i Gristnogion fod yn ofalus nad ydym yn gwneud mwy o ddrwg nag o les yn ein pryder am ddisgyblaeth ffyddlon a byw’n iawn. Er enghraifft, gallai cymdeithas eglwys gynnwys chwyn yn ogystal â gwenith – ond gall mynnu bod pobl yn cadw at yr holl reolau rydym yn meddwl sy’n iawn fod yn ddinistriol. Nid yw hynny i ddweud y dylem ganiatáu i bechodau dybryd fynd heb eu herio, ond mae yna lawer o feysydd lle mae caredigrwydd grasol yn ymateb gwell. ‘Gadewch i'r gwenith a'r chwyn dyfu gyda'i gilydd’ (adnod 30); Duw fydd y barnwr, nid ni.

Gweddi

Gweddi

Duw, maddau imi os ydw i wedi bod yn rhy gyflym i farnu. Cynorthwya fi i fod yn garedig a graslon, ac i ymddiried yn dy gyfiawnder di, nid yn fy nghyfiawnder fy hun, wrth ddelio â phobl eraill.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible