Skip to main content

Un barnwr ar y tro: Barnwyr 3.1–11 (19 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Barnwyr 3

Othniel oedd y barnwr cyntaf, ac mae ei reolaeth yn sefydlu’r patrwm sydd i’w ddilyn: gormes, achub, gwrthgiliad, mewn cylch parhaus. Roedd y bobl wedi ‘anghofio'r ARGLWYDD eu Duw’ (adnod 7) ac yn addoli eilunod; o ganlyniad maent yn gwanhau ac yn cael eu gorchfygu. Mae Duw’n codi barnwr sy’n eu galw yn ôl i addoli Duw ac yn eu hachub oddi wrth eu gelynion; mae ef neu hi’n marw, ac maent yn mynd yn ôl i’w hen ffyrdd.

Mae barnwyr yn cynnig rhai straeon gwych inni (mae llofruddiaeth Eglon yn y bennod hon yn darllen fel sgript ffilm antur fodern), ond mae’r patrwm hwn yn darlunio dau beth. Yn gyntaf, ceir y cwestiwn am effeithiolrwydd. Y byrdwn trwy Lyfr y Barnwyr yw ‘Doedd dim brenin yn Israel yr adeg yna. Roedd pawb yn gwneud beth roedden nhw'n feddwl oedd yn iawn’ (21.25). Nid yw dibynnu ar bersonoliaethau pwerus i ddatrys problemau yn dda i unrhyw gymuned yn y tymor hir. Mae pob cymuned angen cryfder mewn dyfnder – sefydliadau da a rheolaeth dda.

Yn ail, mae’r system barnwyr, lle mae ‘Ysbryd yr ARGLWYDD’ (adnod 10) yn disgyn ar un person ar y tro, yn ein hatgoffa o chwyldro’r Pentecost, pan ddisgynnodd yr Ysbryd ar yr holl ddisgyblion. Mae Cristnogion heddiw i gyd wedi’u grymuso gan yr Ysbryd Glân. Efallai ein bod yn ddiolchgar am weinidogaeth pobl ddawnus, ond nid oes angen rhywun arbennig arnom i’n hachub: mae gennym ni’r cyfan sydd ei angen arnom oherwydd rhodd Crist, ei Ysbryd. Mae hynny’n fraint fawr – ac yn gyfrifoldeb mawr.  

 

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch i ti am fagu dynion a merched cryf i dy wasanaethu mewn ffyrdd anghyffredin. A diolch i ti am roi rhodd dy Ysbryd imi hefyd. Helpa fi i dy wasanaethu yn y tasgau rwyt wedi rhoi imi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible