Skip to main content

Wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i: Amos 4.1–13 (14 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Amos 4.1–13

Mae Amos 4 yn siarad am y trychinebau a’r digwyddiadau sydd wedi mynd a dod ac wedi effeithio ar Israel tra ei bod wedi troi oddi wrth Dduw. Mae’r darn yn tynnu sylw at rai o bechodau’r Israeliaid: gormesu’r tlawd a llethu’r anghenus, ynghyd â brolio am eu haberthau. Effaith hyn yw eu bod yn ymddangos yn gyfiawn ac yn sanctaidd i’w cymheiriaid, ond mae Duw yn gweld trwyddynt ac yn gwybod y ffordd y maent yn gweithredu mewn gwirionedd.

Mae’r rhestr o drychinebau sy’n digwydd i Israel yn gwrthgyferbynnu ag addewidion Duw. Addawodd Duw pe byddent yn ufuddhau i’w orchmynion ac yn anrhydeddu’r cyfamod, y byddai’n eu hamddiffyn rhag pla'r Aifft (Exodus 6.8) a rhag eu gelynion (Exodus 23.22-23). Fodd bynnag, mae’r darn hwn yn datgelu bod oherwydd i’r Israeliaid droi eu cefnau ar Dduw, codwyd ei amddifffyniad drostynt ac fe wnaethant ddioddef o ganlyniad. Ac eto, mae’r darn yn galaru nad yw’r Israeliaid yn dal i ddychwelyd at Dduw.

Gallem ddychmygu Duw fel rhiant sydd wedi dweud wrth ei blant am beidio â chyfwrdd â fflamau. Pan fyddant yn cael eu llosgi, ac nad ydynt yn dysgu eu gwers ond yn parhau i weithredu yn yr un modd, mae Duw’n mynd yn rhwystredig – rydym yn clywed y rhwystredigaeth hon yn yr ymadrodd ailadroddus, ‘ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i’.

Gallwn fod yn hyderus, oherwydd aberth Iesu, na fydd Duw byth yn ein gadael a bydd bob amser yn ein hamddiffyn. Fodd bynnag, gallwn hefyd fod yn ymwybodol pan fydd Duw yn ceisio ein rhybuddio neu anfon arwyddion atom.

Gweddi

Gweddi

Annwyl Dduw, helpa fi i wrando ar dy lais a chydnabod pan rwyt yn ceisio dweud rhywbeth wrthyf. Helpa fi i gadw dy orchmynion ac anrhydeddu dy air.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Hannah Stevens sy’n rhan o dîm cyhoeddi Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible