Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Ar yr wyneb, does dim o’i le ar frenin yn cymryd cyfrifiad. Mae angen i frenin darbodus wybod faint o filwyr a threthdalwyr sydd ganddo. Yn y stori hon, nid yw’r elfen o bechadurusrwydd yn cael ei hegluro. Mae’r ysgrifennwr yn priodoli’r hyn sy’n digwydd i weithgaredd uniongyrchol Duw. Ystyr syml y bennod hon yw ei fod yn ddig gydag Israel ac yn peri i Dafydd bechu fel y gall gosbi’r genedl yn unol â hynny (adnod 1). Dyma un o’r amseroedd hynny pan fydd y Beibl yn adlewyrchu safbwynt dynol rhannol, gan gysylltu achosion ac effeithiau mewn ffyrdd sy’n ymddangos yn rhyfedd i ni heddiw.
Ond beth sydd o’i le gyda chyfrifiad? Efallai ei fod yn ymwneud â pherchnogaeth, honiad o bŵer gan y brenin dros ei bobl; roedd hynny’n iawn i genhedloedd eraill gyflawni, ond roedd Israel yn perthyn i Dduw. Efallai ei fod yn ymwneud â balchder – cymerodd Dafydd y cyfrifiad allan o awydd i ymfoethuso ei rym a’i lwyddiant. Mae balchder brenhinoedd sydd â gormod o feddwl ohonynt eu hunain – fel Nebuchadnesar (Daniel 4.28-33) a Herod (Actau 12.20-25) – yn aml yn mynd o flaen cwymp.
Felly efallai bod y stori’n dweud wrthym ni i fod yn ofalus beth rydym ni’n ei gyfrif, a pham. Gall eglwysi fod yn afiach o orfanwl gyda rhifau – incwm, neu bresenoldeb, er enghraifft. Efallai y byddwn yn gosod nodau personol i’n hunain, ac yn poeni os na fyddwn yn eu cyflawni. Os ydym yn llwyddiannus yn nhermau bydol, gallai balans banc cynyddol arwain at fod yn hunanfodlon.
Weithiau mae mesur a chyfrif pethau yn ffordd i ni geisio eu rheoli, yn hytrach nag ymddiried yn Nuw.
Duw, maddau imi os rwy’n gadael i falchder ac uchelgais fy rheoli, a methu ymddiried ynddot ti fel y dylwn. Helpa fi i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yn fy mywyd a’m ffydd, a chadw fi rhag syrthio i bechod.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl