Skip to main content

Y mawrion a’r da: Mathew 20.20–28 (9 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, trugarha. Glanha fi. Llonydda fy meddwl. Helpa fi i wrando wrth i ti siarad.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 20

Mae tri darn yn olynol yn Mathew 20 yn datgelu awydd dynol i fod yn bwysig ac i gael eu parchu. Mae gweithwyr diwyd yn cwyno am ffafriaeth y pennaeth tuag at weithwyr rhan-amser. Mae breuddwydion dynion ifanc o gael gwared â’r penarglwyddi Rhufeinig yn chwalu wrth i’w harweinydd ragweld trechiad. Mae mam uchelgeisiol yn cael ei dwrdio am geisio dyrchafiad i’w bechgyn.

Mae galwad Iesu i wasanaeth ac aberth yn herio meritocratiaeth, ymreolaeth, rheng a statws. Does ryfedd bod Cristnogaeth wedi cael ei wawdio fel crefydd i gaethweision o bryd i’w gilydd.

Yn fwy aml na dim, serch hynny, mae’r ysfa i gael eu cyfrif ymhlith y mawrion a’r da yn datgelu ansicrwydd person. Roedd Iesu, ar y llaw arall, yn gwybod yn union pwy ydoedd, pam yr oedd wedi dod ac i ble yr oedd yn anelu. Ni allai ei ymdeimlad o hunaniaeth fod wedi bod yn gryfach. Dyma pam y llwyddodd i wasanaethu, hyd yn oed i’r pwynt o roi ei fywyd dros eraill: nid oedd angen iddo gael ei gydnabod, ei wobrwyo na’i anrhydeddu. Tarddai ei ddiogelwch yn ei berthynas â’r Tad. Yn yr un modd, gall Cristnogion fforddio bod yn weision gostyngedig, oherwydd bod eu hunanwerth wedi’i seilio ar fod yn ddinasyddion brenhinol teyrnas Dduw.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, helpa fi heddiw i garu a gwasanaethu rhywun sydd angen help.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible