Skip to main content

Yn dawel ffyddlon: Pregethwr 8.9–17 (Ebrill 20, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Pregethwr 8

Mae'n ymddangos bod llyfr Pregethwr yn canolbwyntio ar sut i ymdopi yn y byd heb ormod o drafferth - er pan rydym yn cloddio o dan yr wyneb, rydym yn darganfod bod mwy iddo na hynny.

Ym mhennod 8, mae'r awdur yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r farn a fynegir mewn man arall yn yr Ysgrythur bod bywyd da yn cael ei wobrwyo a bod bywyd gwael yn cael ei gosbi. Tydi hyn yn  gwneud 'dim sens', meddai (adnod 14); ‘mae rhai pobl sydd wedi byw yn ufudd i Dduw yn cael eu trin fel petaen nhw wedi gwneud drwg; ac mae rhai pobl ddrwg sy'n cael eu trin fel petaen nhw wedi byw yn iawn'.

Gallai barn y pregethwr ar hyn fod yn ysgytwol, gan ei fod yn ymddangos ei fod yn gwrth-ddweud rhannau eraill o'r Ysgrythur, neu fe allai ddod fel chwa o awyr iach. Felly efallai bod dau beth yma i ni. Yn gyntaf, dylem fod yn ofalus sut rydym yn darllen yr holl Ysgrythur, gan roi sylw i'w gyd-destun a'r math o ysgrifennu ydyw; nid yw defosiwn yr un peth ag athrawiaeth, ac nid yw bywyd da yn gwarantu bywyd heddychlon na llewyrchus yn awtomatig. Ond yn ail, ni ddylem synnu pan fydd pobl ddrwg yn ffynnu; nid yw'r Ysgrythur yn dweud na wnânt. A phan ddywed y Pregethwr mai'r ‘peth gorau all rhywun ei wneud ar y ddaear yma ydy bwyta, yfed a mwynhau ei hun' (adnod 15) ac ‘y gwir ydy does neb yn deall popeth sy'n digwydd yn y byd’ (adnod 17), mae'n wirioneddol yn ein hannog i fod yn dawel ffyddlon, a pheidio edrych am resymau pam mae pethau fel y maent. Beth bynnag sy'n digwydd, rydym yn cael ein caru gan Dduw.

Gweddi

Gweddi

Duw, weithiau mae'n anodd edrych o gwmpas a gweld pobl ddrwg ddim yn cael eu cosbi am wneud pethau ofnadwy. Helpa fi i ymddiried yn dy gyfiawnder ac i fod yn ffyddlon yn yr hyn rwyt ti wedi rhoi imi ei wneud.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible