No themes applied yet
Buddugoliaethau Milwrol Dafydd
2 Sam. 8:1–18
1Wedi hyn gorchfygodd Dafydd y Philistiaid a'u darostwng, a chipiodd Gath a'i phentrefi oddi arnynt. 2Yna gorchfygodd y Moabiaid, a daethant hwy yn ddeiliaid iddo gan dalu treth. 3Gorchfygodd Dafydd hefyd Hadadeser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd hwnnw ar ei ffordd i sefydlu ei awdurdod ar lan afon Ewffrates. 4Cipiodd Dafydd oddi arno fil o gerbydau, saith mil o farchogion ac ugain mil o wŷr traed. Cadwodd Dafydd gant o feirch cerbyd, ond torrodd linynnau gar y lleill i gyd. 5Pan ddaeth Syriaid Damascus i helpu Hadadeser brenin Soba, trawodd Dafydd ddwy fil ar hugain ohonynt. 6Yna fe osododd Dafydd garsiynau18:6 Felly Fersiynau. TM heb garsiynau. ymhlith Syriaid Damascus, a daeth y Syriaid yn weision i Ddafydd a thalu treth iddo. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Ddafydd ple bynnag yr âi. 7Cymerodd Dafydd y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, a dygodd hwy i Jerwsalem. 8Hefyd, o Tibhath a Chun, trefi Hadadeser, fe gymerodd Dafydd lawer iawn o bres a ddefnyddiwyd gan Solomon i wneud y môr pres a'r colofnau a'r llestri pres.
9Pan glywodd Toi brenin Hamath fod Dafydd wedi gorchfygu holl fyddin Hadadeser brenin Soba, 10fe anfonodd ei fab Hadoram i ddymuno'n dda i'r Brenin Dafydd a'i longyfarch am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser a'i orchfygu; oherwydd bu Hadadeser yn rhyfela'n gyson yn erbyn Toi. Anfonodd hefyd lestri o arian ac o aur ac o bres, 11a chysegrodd y Brenin Dafydd hwy i'r ARGLWYDD, yn ogystal â'r arian a'r aur a gymerodd oddi ar yr holl genhedloedd, sef Edom, Moab, yr Ammoniaid, y Philistiaid a'r Amaleciaid.
12Lladdodd Abisai fab Serfia ddeunaw mil o Edomiaid yn Nyffryn yr Halen; 13yna gosododd garsiynau yn Edom, a daeth yr Edomiaid i gyd yn ddeiliaid i Ddafydd. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Ddafydd ple bynnag yr âi.
14Yr oedd Dafydd yn teyrnasu dros Israel gyfan, ac yn gweinyddu barn a chyfiawnder i'w holl bobl. 15Joab fab Serfia oedd dros y fyddin; Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur; 16Sadoc fab Ahitub, ac Abimelech fab Abiathar yn offeiriaid; Safsa yn ysgrifennydd; 17Benaia fab Jehoiada dros y Cerethiaid a'r Pelethiaid; a meibion Dafydd yn brif swyddogion yng ngwasanaeth y brenin.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004