No themes applied yet
Gwaith y Lefiaid
1Wedi i Ddafydd fynd yn hen a chyrraedd oedran teg, fe wnaeth Solomon ei fab yn frenin ar Israel. 2Yna fe gasglodd ynghyd holl arweinwyr Israel, a'r offeiriaid a'r Lefiaid. 3Rhifwyd y Lefiaid a oedd yn ddeg ar hugain oed a throsodd, a'r cyfanrif oedd deunaw mil ar hugain. 4O'r rhain yr oedd pedair mil ar hugain i arolygu'r gwaith yn nhŷ'r ARGLWYDD, chwe mil i fod yn swyddogion ac yn farnwyr, 5pedair mil yn borthorion, a phedair mil i foli'r ARGLWYDD â'r offerynnau mawl a wnaeth Dafydd23:5 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, a wneuthum.. 6Rhannodd Dafydd hwy yn ddosbarthiadau yn ôl meibion Lefi, sef Gerson, Cohath a Merari.
7Meibion Gerson: Ladan a Simei. 8Meibion Ladan: Jehiel yn gyntaf, yna Setham a Joel, tri. 9Meibion Simei: Selomith, Hasiel a Haran, tri. Y rhain oedd pennau-teuluoedd Ladan. 10Meibion Simei: Jahath, Sisa23:10 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, Sina., Jeus a Bereia. Dyma bedwar mab Simei, 11Jahath yn gyntaf a Sisa yn ail; ond nid oedd gan Jeus a Bereia lawer o feibion, felly cyfrifwyd hwy fel un teulu.
12Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel, pedwar. 13Meibion Amram: Aaron a Moses. Cafodd Aaron a'i feibion eu neilltuo am byth i sancteiddio'r cysegr sancteiddiaf ac i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ac i fendithio yn ei enw dros byth. 14Ond yr oedd meibion Moses, gŵr Duw, i'w cyfrif ymhlith llwyth Lefi. 15Meibion Moses: Gersom ac Elieser. 16Meibion Gersom: Sebuel yn gyntaf. 17Meibion Elieser: Rehabia yn gyntaf; nid oedd ganddo feibion eraill, ond yr oedd meibion Rehabia yn niferus iawn. 18Meibion Ishar: Selomith yn gyntaf. 19Meibion Hebron: Jereia yn gyntaf, Amareia yn ail, Jahasiel yn drydydd a Jecameam yn bedwerydd. 20Meibion Ussiel: Micha yn gyntaf a Jeseia yn ail.
21Meibion Merari: Mahli a Musi. Meibion Mahli: Eleasar a Cis. 22Bu farw Eleasar; nid oedd ganddo feibion, dim ond merched, a phriododd eu cefndyr, meibion Cis, â hwy. 23Meibion Musi: Mahli, Eder a Jerimoth, tri.
24Dyma feibion Lefi yn ôl eu teuluoedd, a dyma'r pennau-teuluoedd yn ôl eu swyddi ac wedi eu rhifo fesul un wrth eu henwau; yr oedd pob un ugain oed a throsodd i ofalu am waith tŷ'r ARGLWYDD, 25oherwydd i Ddafydd ddweud, “Am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi rhoi diogelwch i'w bobl, ac wedi dod i breswylio yn Jerwsalem am byth, 26nid oes rhaid mwyach i'r Lefiaid gario'r tabernacl na'r holl offer sydd ar ei gyfer.” 27Yn ôl geiriau olaf Dafydd yr oedd y Lefiaid ugain oed a throsodd i'w rhifo. 28Eu dyletswydd oedd cynorthwyo meibion Aaron yng ngwasanaeth tŷ'r ARGLWYDD, gofalu am y cynteddau a'r ystafelloedd, puro popeth sanctaidd ac ymgymryd â gwasanaeth tŷ Dduw. 29Yr oeddent yn gyfrifol am y bara gosod, y blawd ar gyfer y bwydoffrwm, y teisennau croyw, y bara radell, y toes wedi ei dylino, a'r holl bwysau a mesurau. 30Yr oeddent i fod yn bresennol fore a hwyr i roi mawl a chlod i'r ARGLWYDD. 31Bob tro yr offrymid poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar Saboth, newydd-loer neu ŵyl, rhaid oedd i'r nifer dyladwy ohonynt fod ger ei fron ef. 32Yr oeddent i oruchwylio pabell y cyfamod a'r cysegr, a gweini ar eu brodyr, meibion Aaron, wrth iddynt wasanaethu yn nhŷ'r ARGLWYDD.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004