No themes applied yet
Y Porthorion
1Dyma ddosbarthiadau'r porthorion. O'r Corahiaid; Meselemia fab Core, o feibion Asaff. 2O feibion Meselemia: Sechareia y cyntafanedig, Jediael yr ail, Sebadeia y trydydd, Jathniel y pedwerydd, 3Elam y pumed, Jehohanan y chweched, Elioenai y seithfed. 4O feibion Obed-edom: Semaia y cyntafanedig, Jehosabad yr ail, Joa y trydydd, Sachar y pedwerydd, Nethaneel y pumed, 5Ammiel y chweched, Issachar y seithfed, Peulthai yr wythfed; oherwydd yr oedd Duw wedi ei fendithio. 6I'w fab Semaia ganwyd meibion a ddaeth yn arweinwyr eu teulu am eu bod yn ddynion galluog iawn. 7Meibion Semaia: Othni, Reffael, Obed, Elsabad a'i frodyr Elihu a Semachei, gwŷr galluog. 8Disgynyddion Obed-edom oedd y rhain i gyd, ac yr oeddent hwy a'u meibion a'u brodyr yn ddynion galluog ac yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth, chwe deg a dau ohonynt. 9O feibion a brodyr Meselemia, dynion galluog: deunaw. 10O feibion Hosa y Merariad: Simri yn gyntaf (er nad ef oedd y cyntafanedig, gwnaeth ei dad ef yn gyntaf), 11Hilceia yn ail, Tebaleia yn drydydd, Sechareia yn bedwerydd; yr oedd meibion a brodyr Hosa yn dri ar ddeg i gyd.
12Trwy'r rhain, y dynion mwyaf blaenllaw, yr oedd gan ddosbarthiadau'r porthorion ddyletswyddau ynglŷn â gwasanaeth yn nhŷ yr ARGLWYDD gyda'u brodyr. 13Bwriasant goelbrennau ar gyfer y pyrth yn ôl eu teuluoedd, ifanc a hen fel ei gilydd. 14Syrthiodd y coelbren am borth y dwyrain ar Selemeia. Yna bwriasant goelbrennau dros ei fab Sechareia, a oedd yn gynghorwr deallus, a chafodd yntau borth y gogledd. 15Cafodd Obed-edom borth y de, a'i feibion yr ystordy. 16Cafodd Suppim a Hosa borth y gorllewin gyda phorth Salecheth ar y briffordd uchaf. 17Yr oedd y gwylwyr yn cyfnewid â'i gilydd: chwech bob dydd26:17 Felly Groeg. Hebraeg, chwech y Lefiaid. ym mhorth y dwyrain, pedwar bob dydd ym mhorth y gogledd, a phedwar bob dydd ym mhorth y de, dau yr un ar gyfer yr ystordai, 18ac ar gyfer y glwysty gorllewinol, pedwar ar y briffordd a dau i'r glwysty ei hun. 19Y rhain oedd dosbarthiadau'r porthorion o blith meibion Cora a meibion Merari.
Dyletswyddau Eraill y Lefiaid
20Eu brodyr y Lefiaid26:20 Felly Groeg. Hebraeg, Y Lefiaid, Aheia. oedd yn gofalu am drysordai tŷ Dduw a thrysordai'r pethau cysegredig. 21O feibion Ladan, a oedd yn Gersoniaid trwy Ladan ac yn bennau-teuluoedd i Ladan y Gersoniad: Jehieli. 22O feibion Jehieli: Setham a Joel ei frawd; hwy oedd yn gyfrifol am drysordai tŷ'r ARGLWYDD. 23O'r Amramiaid, yr Ishariaid, yr Hebroniaid a'r Ussieliaid: 24Sebuel fab Gersom, fab Moses oedd yn bennaeth ar y trysordai. 25Ei berthnasau ef trwy Eleasar: Rehabia ei fab, Jeseia ei fab, Joram ei fab, Sichri ei fab a Selomoth ei fab. 26Y Selomoth hwn a'i frodyr oedd yn gofalu am holl drysordai'r pethau sanctaidd a gysegrodd y Brenin Dafydd, y pennau-teuluoedd, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a swyddogion y fyddin. 27Yr oeddent hwy wedi cysegru rhan o'r ysbail rhyfel er mwyn cynnal tŷ'r ARGLWYDD. 28Yr oedd y cwbl a gysegrodd Samuel y gweledydd, Saul fab Cis, Abner fab Ner a Joab fab Serfia—hynny yw, popeth cysegredig—yng ngofal Selomoth a'i frodyr. 29O'r Ishariaid: Cenaneia a'i feibion oedd yn gweithredu fel swyddogion a barnwyr ar Israel mewn materion y tu allan i'r deml. 30O'r Hebroniaid: Hasabeia a'i frodyr, mil saith gant o ddynion galluog, oedd yn arolygu gwaith yr ARGLWYDD a gwasanaeth y brenin yn Israel y tu hwnt i'r Iorddonen. 31O'r Hebroniaid: Jereia yn gyntaf. Yn neugeinfed flwyddyn teyrnasiad Dafydd chwiliwyd achau'r Hebroniaid, a chafwyd bod dynion galluog iawn yn eu mysg yn Jaser Gilead. 32Yr oedd gan Jereia ddwy fil saith gant o berthnasau yn bennau-teuluoedd ac yn ddynion galluog. A dewisodd y Brenin Dafydd hwy i arolygu'r Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse mewn materion yn ymwneud â Duw ac â'r brenin.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004