No themes applied yet
Trefn Filwrol a Sifil
1Dyma nifer meibion Israel, yn bennau-teuluoedd a chapteiniaid y miloedd a'r cannoedd a'u swyddogion, oedd yn gwasanaethu'r brenin yn y gwahanol adrannau fis ar y tro trwy gydol y flwyddyn: pedair mil ar hugain ymhob adran. 2Jasobeam fab Sabdiel oedd yn gofalu am yr adran gyntaf am y mis cyntaf, ac yn ei adran ef yr oedd pedair mil ar hugain. 3Yr oedd ef o feibion Peres ac yn brif swyddog y llu am y mis cyntaf. 4Dodai yr Ahohiad oedd dros adran yr ail fis, ac yn ei adran ef a Micloth y pennaeth yr oedd pedair mil ar hugain. 5Benaia fab Jehoiada yr archoffeiriad oedd trydydd swyddog y llu, am y trydydd mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain. 6Y Benaia hwn oedd yr arwr ymhlith y Deg ar Hugain, ac ef oedd yn gofalu amdanynt. Amisabad ei fab oedd dros ei adran ef. 7Asahel brawd Joab oedd y pedwerydd, am y pedwerydd mis, a Sebadeia ei fab ar ei ôl; yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain. 8Samuth yr Israhiad oedd y pumed swyddog, am y pumed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain. 9Ira fab Icces y Tecoiad oedd y chweched, am y chweched mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain. 10Heles y Peloniad, o feibion Effraim, oedd y seithfed, am y seithfed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain. 11Sibbechai yr Husathiad, un o'r Sarhiaid, oedd yr wythfed am yr wythfed mis, ac yn ei adran ef yr oedd pedair mil ar hugain. 12Abieser o Anathoth, un o'r Benjaminiaid, oedd y nawfed, am y nawfed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain. 13Maharai o Netoffa, un o'r Sarhiaid, oedd y degfed, am y degfed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain. 14Benaia y Pirathoniad, o feibion Effraim, oedd yr unfed ar ddeg, am yr unfed mis ar ddeg, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain. 15Heldai y Netoffathiad o Othniel oedd y deuddegfed, am y deuddegfed mis, ac yn ei adran ef yr oedd pedair mil ar hugain.
Swyddogion Llwythau Israel
16Prif swyddogion llwythau Israel: Elieser fab Sichri dros y Reubeniaid; Seffatia fab Maacha dros y Simeoniaid; 17Hasabeia fab Cemual dros y Lefiaid; Sadoc dros yr Aaroniaid; 18Elihu, un o frodyr Dafydd, dros Jwda; Omri fab Michael dros Issachar; 19Ismaia fab Obadeia dros Sabulon; Jerimoth fab Asriel dros Nafftali; 20Hosea fab Asaseia dros feibion Effraim; Joel fab Pedaia dros hanner llwyth Manasse; 21Ido fab Sechareia dros hanner llwyth Manasse yn Gilead; Jaasiel fab Abner dros Benjamin; 22Asarel fab Jeroham dros Dan. Y rhain oedd swyddogion llwythau Israel.
23Ni restrodd Dafydd y rhai ugain mlwydd oed a thanodd, am fod yr ARGLWYDD wedi addo gwneud Israel mor niferus â sêr y nefoedd. 24Fe ddechreuodd Joab fab Serfia wneud cyfrifiad, ond nis gorffennodd. O achos hyn fe ddaeth llid ar Israel, a dyna pam na cheir y cyfanswm yng nghronicl y Brenin Dafydd.
Swyddogion Trysordai'r Brenin
25Dros drysordai'r brenin: Asmafeth fab Abdiel; dros y trysordai yn y wlad, y dinasoedd, y pentrefi a'r caerau: Jehonathan fab Usseia; 26dros y rhai oedd yn gweithio ar y tir: Esri fab Celub; 27dros y gwinllannoedd: Simei y Ramathiad; dros gynnyrch y gwinllannoedd yn y selerau gwin: Sabdi y Siffniad; 28dros yr olewydd a'r sycamorwydd yn y Seffela: Baal-hanan y Gederiad; dros y selerau olew: Joas; 29dros yr ychen yn pori yn Saron: Sitrai y Saroniad; dros yr ychen yn y dyffrynnoedd: Saffat fab Adlai; 30dros y camelod: Obil yr Ismaeliad; dros yr asynnod: Jehdeia y Moronothiad; dros y defaid: Jasis yr Hageriad. 31Dyma'r swyddogion oedd yn gofalu am eiddo'r Brenin Dafydd.
Cynghorwyr Personol Dafydd
32Jehonathan, ewythr Dafydd, cynghorwr ac ysgrifennydd deallus, a Jehiel fab Hachmoni oedd yn gofalu am feibion y brenin. 33Yr oedd Ahitoffel yn gynghorwr i'r brenin, a Husai yr Arciad yn gyfaill y brenin. 34Dilynwyd Ahitoffel gan Jehoiada fab Benaia, ac Abiathar. Joab oedd cadfridog byddin y brenin.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004