No themes applied yet
Disgynyddion Lefi
1Meibion Lefi: Gerson, Cohath, a Merari. 2Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel. 3Plant Amram: Aaron, Moses, a Miriam. Meibion Aaron: Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar. 4Eleasar oedd tad Phinees, Phinees oedd tad Abisua, 5Abisua oedd tad Bucci, Bucci oedd tad Ussi, 6Ussi oedd tad Seraheia, Seraheia oedd tad Meraioth. 7Meraioth oedd tad Amareia, Amareia oedd tad Ahitub, 8Ahitub oedd tad Sadoc, Sadoc oedd tad Ahimaas, 9Ahimaas oedd tad Asareia, Asareia oedd tad Johanan, 10Johanan oedd tad Asareia (yr oedd ef yn offeiriad yn y tŷ a adeiladodd Solomon yn Jerwsalem); 11Asareia oedd tad Amareia, Amareia oedd tad Ahitub, 12Ahitub oedd tad Sadoc, Sadoc oedd tad Salum, 13Salum oedd tad Hilceia, Hilceia oedd tad Asareia, 14Asareia oedd tad Seraia, Seraia oedd tad Jehosadac. 15Aeth Jehosadac i ffwrdd pan gaethgludodd yr ARGLWYDD Jwda a Jerwsalem o dan Nebuchadnesar.
16Meibion Lefi: Gersom, Cohath, a Merari. 17Dyma enwau meibion Gersom: Libni a Simei. 18Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel. 19Meibion Merari: Mahli a Musi. 20Dyma dylwyth y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd. I Gersom: Libni ei fab, Jahath ei fab yntau, Simma ei fab yntau, 21Joa ei fab yntau, Ido ei fab yntau, Sera ei fab yntau, a Jeaterai ei fab yntau. 22Meibion Cohath: Aminadab ei fab, Cora ei fab yntau, Assir ei fab yntau, 23Elcana ei fab yntau, Ebiasaff ei fab yntau, Assir ei fab yntau. 24Tahath ei fab yntau, Uriel ei fab yntau, Usseia ei fab yntau, a Saul ei fab yntau. 25Meibion Elcana: Amasai ac Ahimoth, 26Elcana, Ben-elcana, Soffai ei fab, a Nahath ei fab yntau, 27Eliab ei fab yntau, Jeroham ei fab yntau, Elcana ei fab yntau. 28Meibion Samuel: Fasni y cyntafanedig, ac Abeia. 29Meibion Merari: Mahli, Libni ei fab yntau, Simei ei fab yntau, Ussa ei fab yntau, 30Simea ei fab yntau, Haggia ei fab yntau, Asaia ei fab yntau.
Cantorion Tŷ yr ARGLWYDD
31Dyma'r rhai a wnaeth Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr ARGLWYDD ar ôl gosod yr arch yno, 32A buont yn gwasanaethu fel cantorion o flaen tabernacl pabell y cyfarfod nes i Solomon adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, ac yn gwneud eu gwaith yn ôl y drefn a osodwyd iddynt. 33Dyma'r rhai oedd yn y swydd hon a'u meibion. Meibion y Cohathiaid: Heman y cantor, mab Joel fab Semuel, 34fab Elcana, fab Jeroham, fab Eliel, fab Toa, 35fab Suff, fab Elcana, fab Mahath, fab Amasai, 36fab Elcana, fab Joel, fab Asareia, fab Seffaneia, 37fab Tahath, fab Assir, fab Ebiasaff, fab Cora, 38fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, fab Israel. 39Yr oedd ei frawd Asaff yn sefyll ar ei law dde: Asaff fab Berecheia, fab Simea, 40fab Michael, fab Baaseia, fab Malcheia, 41fab Ethni, fab Sera, fab Adaia, 42fab Ethan, fab Simma, fab Simei, 43fab Jahath, fab Gersom, fab Lefi. 44Yr oedd eu brodyr, meibion Merari, ar y llaw aswy: Ethan fab Cisi, fab Abdi, fab Maluc, 45fab Hasabeia, fab Amaseia, fab Hilceia, 46fab Amsi, fab Bani, fab Samer, 47fab Mahli, fab Musi, fab Merari, fab Lefi. 48Yr oedd eu brodyr y Lefiaid yn gyfrifol am holl wasanaeth tabernacl tŷ Dduw.
Disgynyddion Aaron
49Ond Aaron a'i feibion oedd yn aberthu ar allor y poethoffrwm ac ar allor yr arogldarth, sef holl waith y cysegr sancteiddiaf, ac yn gwneud cymod dros Israel yn union fel y gorchmynnodd Moses gwas Duw. 50Dyma feibion Aaron: Eleasar ei fab, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau, 51Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab yntau, Seraheia ei fab yntau, 52Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau, 53Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.
Trigleoedd y Lefiaid
54Dyma lle'r oeddent yn byw y tu mewn i ffiniau eu tiriogaeth: i deulu'r Cohathiaid o feibion Aaron (am fod y coelbren wedi syrthio arnynt hwy) 55rhoesant Hebron yng ngwlad Jwda a'r cytir o'i hamgylch; 56ond rhoesant feysydd y ddinas a'i phentrefi i Caleb fab Jeffunne. 57I feibion Aaron fe roesant y dinasoedd noddfa, sef Hebron, Libna, Jattir, Estemoa, 58Hilen, Debir, Asan, 59a Beth-semes, pob un gyda'i chytir; 60Ac o lwyth Benjamin rhoesant Geba, Alemeth ac Anathoth, pob un gyda'i chytir; cyfanswm o dair dinas ar ddeg yn ôl eu teuluoedd. 61I weddill teuluoedd meibion Cohath rhoesant trwy goelbren ddeg dinas o hanner llwyth Manasse. 62I feibion Gersom yn ôl eu teuluoedd rhoesant dair ar ddeg o ddinasoedd o lwythau Issachar, Aser, Nafftali, Manasse yn Basan. 63I feibion Merari yn ôl eu teuluoedd, o lwythau Reuben, Gad, Sabulon, rhoesant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd. 64Rhoes meibion Israel i'r Lefiaid y dinasoedd hyn, pob un gyda'i chytir. 65Rhoesant trwy goelbren, o lwythau Jwda, Simeon, a Benjamin, y dinasoedd hyn oedd wedi eu galw ar eu henwau. 66I rai o deuluoedd y Cohathiaid fe roddwyd dinasoedd o fewn terfyn llwyth Effraim. 67Rhoesant iddynt ym mynydd-dir Effraim: Sichem, dinas noddfa; Geser, 68Jocmeam a Beth-horon, 69Ajalon, Gath-rimmon, pob un gyda'i chytir. 70Ac o hanner llwyth Manasse rhoddwyd i weddill y Cohathiaid: Aner a Bileam, pob un gyda'i chytir. 71I feibion Gersom rhoddwyd: o hanner llwyth Manasse, Golan yn Basan ac Astaroth, pob un gyda'i chytir; 72o lwyth Issachar, Cedes, Daberath, 73Ramoth, Anem, pob un gyda'i chytir; 74o lwyth Aser: Masal, Abdon, 75Hucoc, Rehob, pob un gyda'i chytir; 76o lwyth Nafftali: Cedes yng Ngalilea, Hammon, Ciriathaim, pob un gyda'i chytir. 77I'r rhan arall o feibion Merari rhoddwyd o lwyth Sabulon: Rimmon a Tabor, pob un gyda'i chytir. 78O'r Iorddonen a Jericho, sef o du dwyrain yr Iorddonen, rhoddwyd o lwyth Reuben: Beser yn yr anialwch, Jahas, 79Cedemoth a Meffaath, pob un gyda'i chytir, 80o lwyth Gad: Ramoth yn Gilead, Mahanaim, 81Hesbon a Jaser, pob un gyda'i chytir.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004