No themes applied yet
Disgynyddion Benjamin
1Benjamin oedd tad Bela ei gyntafanedig, Asbel yr ail, ac Ahara y trydydd, 2Noha y pedwerydd, a Raffa y pumed. 3Meibion Bela: Adar, Gera, Abihud, 4Abisua, Naaman, Ahoa, 5Gera, Seffuffan a Huram. 6Dyma feibion Ehud, a oedd yn bennau-teuluoedd preswylwyr Geba, ac a gaethgludwyd i Manahath: 7Naaman, Aheia a Gera a fu'n gyfrifol am y gaethglud, ac ef oedd tad Ussa ac Ahihud. 8Ef hefyd oedd tad Saharaim, a anwyd iddo yng ngwlad Moab ar ôl iddo anfon ymaith ei wragedd Husim a Baara. 9O Hodes ei wraig ganwyd iddo Jobab, Sibia, Mesa, Malcham, 10Jeus, Sabia, Mirma. Dyma ei feibion ef, pennau-teuluoedd i gyd. 11O Husim ganwyd iddo Ahitub ac Elpaal. 12Meibion Elpaal: Eber, Misam, Samed, a adeiladodd Ono, a Lod a'i phentrefi; 13Bereia a Sema, pennau-teuluoedd preswylwyr Ajalon, a fu'n ymlid trigolion Gath; 14Ahïo, Sasac, Jeremoth, 15Sebadeia, Arad, Ader, 16Michael, Ispa, Joha, meibion Bereia; 17Sebadeia, Mesulam, Heseci, Heber, 18Ismerai, Jeslïa, Jobab, meibion Elpaal; 19Jacim, Sichri, Sabdi, 20Elienai, Silthai, Eliel, 21Adaia, Beraia, Simrath, meibion Simei; 22Ispan, Heber, Eliel, 23Abdon, Sichri, Hanan, 24Hananeia, Elam, Antotheia, 25Iffedeia, Penuel, meibion Sasac; 26Samserai, Sehareia, Athaleia, 27Jareseia, Eleia, Sichri, meibion Jeroham. 28Yr oedd y rhain yn byw yn Jerwsalem ac yn bennau-teuluoedd a phenaethiaid yn ôl eu rhestrau. 29Yr oedd tad Gibeon yn byw yn Gibeon; enw ei wraig oedd Maacha, 30a'i gyntafanedig Abdon, ac yna Sur, Cis, Baal, Nadab, 31Gedor, Ahïo, Sacher, 32a Micloth tad Simea; yr oeddent yn byw gyda'u perthnasau yn Jerwsalem.
Teulu'r Brenin Saul
1 Cron. 9:35–44
33Ner oedd tad Cis, Cis oedd tad Saul, a Saul oedd tad Jonathan, Malcisua, Abinadab ac Esbaal. 34Mab Jonathan oedd Meribaal; a Meribaal oedd tad Micha. 35Meibion Micha: Pithon, Melech, Tarea ac Ahas. 36Ahas oedd tad Jehoada, Jehoada oedd tad Alemeth, Asmafeth a Simri; Simri oedd tad Mosa; 37Mosa oedd tad Binea; Raffa oedd ei fab ef, Eleasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau. 38Yr oedd gan Asel chwech o feibion, a'u henwau oedd: Asricam, Bocheru, Ismael, Seareia, Obadeia a Hanan. Hwy oedd meibion Asel. 39Meibion Esec ei frawd ef oedd Ulam ei gyntafanedig, Jehus yr ail, Eliffelet y trydydd. 40Yr oedd meibion Ulam yn ddynion abl ac yn saethyddion, ac yr oedd ganddynt gant a hanner o feibion ac wyrion. Yr oedd y rhain i gyd yn feibion Benjamin.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004