No themes applied yet
Problemau ynglŷn â Phriodas
1Yn awr, ynglŷn â'r pethau yn eich llythyr. Peth da yw i ddyn beidio â chyffwrdd â gwraig. 2Ond oherwydd yr anfoesoldeb rhywiol sy'n bod, bydded gan bob dyn ei wraig ei hun, a chan bob gwraig ei gŵr ei hun. 3Dylai'r gŵr roi i'r wraig yr hyn sy'n ddyledus iddi, a'r un modd y wraig i'r gŵr. 4Nid y wraig biau'r hawl ar ei chorff ei hun, ond y gŵr. A'r un modd, nid y gŵr biau'r hawl ar ei gorff ei hun, ond y wraig. 5Peidiwch â gwrthod eich gilydd, oddieithr, efallai, ichwi gytuno ar hyn dros dro er mwyn ymroi i weddi, ac yna dod ynghyd eto, rhag i Satan eich temtio oherwydd eich diffyg ymatal. 6Ond fel goddefiad yr wyf yn dweud hyn, nid fel gorchymyn. 7Carwn pe bai pawb fel yr wyf fi fy hunan; ond y mae gan bob un ei ddawn ei hun oddi wrth Dduw, y naill fel hyn a'r llall fel arall.
8Yr wyf yn dweud wrth y rhai dibriod, a'r gwragedd gweddwon, mai peth da fyddai iddynt aros felly, fel finnau. 9Ond os na allant ymatal, dylent briodi, oherwydd gwell priodi nag ymlosgi. 10I'r rhai sydd wedi priodi yr wyf fi'n gorchymyn—na, nid fi, ond yr Arglwydd—nad yw'r wraig i ymadael â'i gŵr; 11ond os bydd iddi ymadael, dylai aros yn ddibriod, neu gymodi â'i gŵr. A pheidied y gŵr ag ysgaru ei wraig. 12Wrth y lleill yr wyf fi, nid yr Arglwydd, yn dweud: os bydd gan Gristion wraig ddi-gred, a hithau'n cytuno i fyw gydag ef, ni ddylai ei hysgaru. 13Ac os bydd gan wraig ŵr di-gred, ac yntau'n cytuno i fyw gyda hi, ni ddylai ysgaru ei gŵr. 14Oherwydd y mae'r gŵr di-gred wedi ei gysegru trwy ei wraig, a'r wraig ddi-gred wedi ei chysegru trwy ei gŵr o Gristion. Onid e, byddai eich plant yn halogedig. Ond fel y mae, y maent yn sanctaidd. 15Ond os yw'r anghredadun am ymadael, gadewch i hwnnw neu honno fynd. Nid yw'r gŵr na'r wraig o Gristion, mewn achos felly, yn gaeth; i heddwch y mae Duw wedi eich galw. 16Oherwydd sut y gwyddost, wraig, nad achubi di dy ŵr? Neu sut y gwyddost, ŵr, nad achubi di dy wraig?
Bywyd yn ôl Galwad Duw
17Beth bynnag am hynny, dalied pob un i fyw yn ôl y gyfran a gafodd gan yr Arglwydd, pob un yn ôl yr alwad a gafodd gan Dduw. Yr wyf yn gwneud hyn yn rheol yn yr holl eglwysi. 18A gafodd rhywun ei alw ac yntau'n enwaededig? Peidied â chuddio'i gyflwr. A gafodd rhywun ei alw ac yntau'n ddienwaededig? Peidied â cheisio enwaediad. 19Nid enwaediad sy'n cyfrif, ac nid dienwaediad sy'n cyfrif, ond cadw gorchmynion Duw. 20Dylai pob un aros yn y cyflwr yr oedd ynddo pan gafodd ei alw. 21Ai caethwas oeddit pan gefaist dy alw? Paid â phoeni; ond os gelli ennill dy ryddid, cymer dy gyfle, yn hytrach na pheidio.7:21 Neu, a hyd yn oed os gelli ennill dy ryddid, manteisia, yn hytrach, ar gyfle dy gaethiwed. 22Oherwydd y sawl oedd yn gaeth pan alwyd ef i fod yn yr Arglwydd, un rhydd yr Arglwydd ydyw. Yr un modd, y sawl oedd yn rhydd pan alwyd ef, un caeth i Grist ydyw. 23Am bris y'ch prynwyd chwi. Peidiwch â mynd yn gaeth i feistriaid dynol. 24Gyfeillion, arhosed pob un gerbron Duw yn y cyflwr hwnnw yr oedd ynddo pan gafodd ei alw.
Y Rhai Dibriod a'r Gweddwon
25Ynglŷn â'r gwyryfon, nid oes gennyf orchymyn gan yr Arglwydd, ond yr wyf yn rhoi fy marn fel un y gellir, trwy drugaredd yr Arglwydd, ddibynnu arno. 26Yn fy meddwl i, peth da, yn wyneb yr argyfwng sydd yn pwyso arnom, yw i bob un aros fel y mae. 27A wyt yn rhwym wrth wraig? Paid â cheisio dy ryddhau. A wyt yn rhydd oddi wrth wraig? Paid â cheisio gwraig. 28Ond os priodi a wnei, ni fyddi wedi pechu. Ac os prioda gwyryf, ni fydd wedi pechu. Ond fe gaiff rhai felly flinder yn y bywyd hwn, ac am eich arbed yr wyf fi. 29Hyn yr wyf yn ei ddweud, gyfeillion: y mae'r amser wedi mynd yn brin. Am yr hyn sydd ar ôl ohono, bydded i'r rhai sydd â gwragedd ganddynt fod fel pe baent heb wragedd, 30a'r rhai sy'n wylo fel pe na baent yn wylo, a'r rhai sy'n llawenhau fel pe na baent yn llawenhau, a'r rhai sy'n prynu fel rhai heb feddu dim, 31a'r rhai sy'n ymwneud â'r byd fel pe na baent yn ymwneud ag ef. Oherwydd mynd heibio y mae holl drefn y byd hwn. 32Carwn ichwi fod heb ofalon. Y mae'r dyn dibriod yn gofalu am bethau'r Arglwydd, sut i foddhau'r Arglwydd. 33Ond y mae'r gŵr priod yn gofalu am bethau'r byd, sut i foddhau ei wraig, 34ac y mae'n cael ei dynnu y naill ffordd a'r llall. A'r ferch ddibriod a'r wyryf, y maent7:34 Yn ôl darlleniad arall, sut i foddhau ei wraig. Ac y mae gwahaniaeth rhwng y wraig a'r wyryf. Y mae'r ferch ddibriod. yn gofalu am bethau'r Arglwydd, er mwyn bod yn sanctaidd mewn corff yn ogystal ag ysbryd. Ond y mae'r wraig briod yn pryderu am bethau'r byd, sut i foddhau ei gŵr. 35Yr wyf yn dweud hyn er eich lles chwi eich hunain; nid er mwyn eich dal yn ôl, ond er mwyn gwedduster, ac ymroddiad diwyro i'r Arglwydd.
36Os oes unrhyw un yn teimlo ei fod yn ymddwyn yn anweddaidd tuag at ei ddyweddi7:36 Neu, ei gymar mewn gwyryfdod., os yw ei nwydau'n rhy gryf7:36 Neu, tuag at ei ferch sy'n wyryf, os yw hi wedi hen gyrraedd oed priodi. ac felly bod y peth yn anorfod, gwnaed yn ôl ei ddymuniad a bydded iddynt briodi; nid oes pechod yn hynny. 37Ond y sawl sydd yn aros yn gadarn ei feddwl, heb fod dan orfod, ond yn cadw ei ddymuniad dan reolaeth, ac yn penderfynu yn ei feddwl gadw ei ddyweddi7:37 Neu, ei gymar. Neu, ei ferch. yn wyryf, bydd yn gwneud yn dda. 38Felly bydd yr hwn sydd yn priodi ei ddyweddi7:38 Neu, yn priodi ei gymar. Neu, yn rhoi ei ferch i'w phriodi. yn gwneud yn dda, ond bydd y dyn nad yw'n priodi7:38 Neu, ei rhoi i'w phriodi. yn gwneud yn well.
39Y mae gwraig yn rhwym i'w gŵr cyhyd ag y mae ef yn fyw. Ond os bydd ei gŵr farw, y mae'n rhydd i briodi pwy bynnag a fyn, dim ond iddi wneud hynny yn yr Arglwydd. 40Ond bydd yn ddedwyddach o aros fel y mae, yn ôl fy marn i. Ac yr wyf yn meddwl bod Ysbryd Duw gennyf fi hefyd.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004