No themes applied yet
Bwyd wedi ei Aberthu i Eilunod
1Ynglŷn â bwyd sydd wedi ei aberthu i eilunod, y mae'n wir, fel y dywedwch, “fod gennym i gyd wybodaeth.” Y mae “gwybodaeth” yn peri i rywun ymchwyddo, ond y mae cariad yn adeiladu. 2Os oes rhywun yn tybio iddo ddod i wybod rhywbeth, nid yw eto'n gwybod fel y dylai wybod. 3Os oes rhywun yn caru Duw,8:3 Yn ôl darlleniad arall, Os oes rhywun yn caru. y mae wedi ei adnabod gan Dduw. 4Felly, ynglŷn â bwyta'r hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, gwyddom nad oes “dim eilun yn y cyfanfyd”, ac nad oes “dim Duw ond un”. 5Oherwydd hyd yn oed os oes rhai a elwir yn dduwiau, naill ai yn y nef neu ar y ddaear—fel yn wir y mae “duwiau” lawer ac “arglwyddi” lawer— 6eto, i ni, un Duw sydd—y Tad, ffynhonnell pob peth, a diben ein bod; ac un Arglwydd Iesu Grist—cyfrwng pob peth, a chyfrwng ein bywyd ni.
7Ond nid yw'r wybodaeth hon gan bawb. Y mae rhai, oherwydd eu bod hyd yma wedi arfer ag eilunod, yn dal i fwyta'r bwyd fel peth wedi ei aberthu i eilunod; ac y mae eu cydwybod, gan ei bod yn wan, yn cael ei llygru. 8Nid bwyd sy'n mynd i'n cymeradwyo ni i Dduw. Nid ydym ar ein colled o beidio â bwyta, nac ar ein hennill o fwyta. 9Ond gwyliwch rhag i'r hawl yma sydd gennych fod yn achos cwymp mewn unrhyw fodd i'r rhai gwan. 10Oherwydd os bydd i rywun dy weld di, sy'n meddu ar “wybodaeth”, yn bwyta mewn teml eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod, ac yntau'n wan, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod? 11Felly, trwy dy “wybodaeth” di, fe ddinistrir yr un gwan, dy gydgredadun y bu Crist farw drosto. 12Wrth bechu fel hyn yn erbyn eich cydgredinwyr, a chlwyfo'u cydwybod, a hithau'n wan, yr ydych yn pechu yn erbyn Crist. 13Am hynny, os yw bwyd yn achos cwymp i'm cydgredadun, ni fwytâf fi gig byth, rhag i mi achosi cwymp i'm cydgredadun.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004