No themes applied yet
Solomon yn Troi oddi wrth Dduw
1Carodd y Brenin Solomon lawer o ferched estron heblaw merch Pharo—merched o Moab, Ammon, Edom, Sidon a'r Hethiaid, 2y cenhedloedd y dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid amdanynt, “Peidiwch â'u priodi, a pheidiwch â rhoi mewn priodas iddynt; byddant yn sicr o'ch hudo i ddilyn eu duwiau.” Ond dal i'w caru a wnâi Solomon. 3Yr oedd ganddo saith gant o brif wragedd a thri chant o ordderchwragedd; a hudodd ei wragedd ef. 4Pan heneiddiodd Solomon, hudodd ei wragedd ef i ddilyn duwiau estron, ac nid oedd ei galon yn llwyr gyda'r ARGLWYDD ei Dduw, fel y bu calon ei dad Dafydd. 5Aeth Solomon i addoli Astoreth duwies y Sidoniaid, a Milcom ffieiddbeth yr Ammoniaid; 6a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb lwyr ddilyn yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Dafydd. 7Dyna'r pryd yr adeiladodd Solomon uchelfa i Cemos ffieiddbeth Moab, ac i Moloch ffieiddbeth yr Ammoniaid, ar y mynydd i'r dwyrain o Jerwsalem. 8Gwnaeth yr un modd i'w holl wragedd estron oedd yn parhau i arogldarthu ac aberthu i'w duwiau.
9Digiodd yr ARGLWYDD wrth Solomon am iddo droi oddi wrth ARGLWYDD Dduw Israel, ac yntau wedi ymddangos ddwywaith iddo, 10a'i rybuddio ynglŷn â hyn, nad oedd i addoli duwiau eraill. 11Ond ni chadwodd yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD. Am hynny dywedodd yr ARGLWYDD wrth Solomon, “Gan mai dyma dy ddewis, ac nad wyt ti wedi cadw fy nghyfamod na'm deddfau a orchmynnais iti, yr wyf am rwygo'r deyrnas oddi wrthyt a'i rhoi i un o'th weision. 12Eto, er mwyn dy dad Dafydd, nid yn dy oes di y gwnaf hyn chwaith, ond oddi wrth dy fab y rhwygaf hi. 13Ond nid wyf am rwygo ymaith y deyrnas i gyd; gadawaf un llwyth i'th fab, er mwyn fy ngwas Dafydd ac er mwyn Jerwsalem, a ddewisais.”
Gelynion Solomon
14A chododd yr ARGLWYDD Hadad yr Edomiad o deulu brenhinol Edom yn wrthwynebydd i Solomon. 15Yr oedd Dafydd wedi difa Edom11:15 Felly Groeg. Hebraeg, wedi bod yn Edom. pan aeth Joab capten y llu draw i gladdu'r lladdedigion, ac yr oedd wedi lladd pob gwryw yn Edom. 16Arhosodd Joab a'r holl Israeliaid yno am chwe mis, nes difa pob gwryw yn Edom. 17Ond yr oedd Hadad, a oedd yn llanc ifanc ar y pryd, wedi dianc i lawr i'r Aifft gyda'r rhai o'r Edomiaid a fu'n weision i'w dad. 18Wedi gadael Midian a chyrraedd Paran, cymerasant rai gyda hwy o Paran a dod i'r Aifft at Pharo brenin yr Aifft; rhoddodd yntau lety i Hadad, a threfnu i'w gynnal a rhoi tir iddo. 19Enillodd Hadad ffafr mawr yng ngolwg Pharo, a rhoddodd yntau chwaer ei wraig, sef chwaer y Frenhines Tachpenes, yn wraig iddo. 20Pan roddodd chwaer Tachpenes enedigaeth i'w fab Genubath, magodd Tachpenes ef ar aelwyd Pharo, fel bod Genubath yng nghartref Pharo gyda phlant Pharo. 21Ond pan glywodd Hadad yn yr Aifft fod Dafydd wedi marw, a bod Joab capten y llu hefyd wedi marw, dywedodd wrth Pharo, “Gad imi fynd i'm gwlad fy hun.” 22Gofynnodd Pharo, “Ond beth sy'n brin arnat gyda mi, dy fod am fynd adref?” Meddai yntau, “Dim, ond gad imi fynd.”
23Gwrthwynebydd arall a gododd Duw i Solomon oedd Reson fab Eliada. Yr oedd hwn wedi ffoi oddi wrth ei arglwydd, Hadadeser brenin Soba. 24Casglodd rai o'i gwmpas a mynd yn gapten gwylliaid, ar ôl y lladdfa a wnaeth Dafydd arnynt, ac aethant i fyw i Ddamascus a'i rheoli. 25Bu'n wrthwynebydd i Israel tra bu Solomon yn fyw, ac yn gwneud cymaint o ddrwg â Hadad, am ei fod yn ffieiddio Israel ac yn frenin ar Syria.
Addewid Duw i Jeroboam
26Un arall a gododd mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin oedd Jeroboam fab Nebat, Effratead o Sereda, a swyddog i Solomon; gwraig weddw o'r enw Serfa oedd ei fam. 27A dyma'r achos iddo wrthryfela yn erbyn y brenin: pan oedd Solomon yn codi'r Milo ac yn cau'r bwlch ym mur dinas ei dad Dafydd, 28yr oedd Jeroboam yn ŵr medrus; a phan welodd Solomon sut yr oedd y llanc yn gwneud ei waith, gwnaeth ef yn arolygwr dros holl fintai llafur gorfod llwyth Joseff. 29Y pryd hwnnw digwyddodd i Jeroboam fynd o Jerwsalem, ac ar y ffordd cyfarfu â'r proffwyd Aheia o Seilo mewn mantell newydd, heb neb ond hwy ill dau yn y fan. 30Cydiodd Aheia yn y fantell newydd oedd amdano a'i rhwygo'n ddeuddeg darn, 31a dweud wrth Jeroboam, “Cymer ddeg o'r darnau, oherwydd fel hyn y dywedodd ARGLWYDD Dduw Israel: ‘Yr wyf ar rwygo'r deyrnas o afael Solomon, a rhoi i ti ddeg o'r llwythau. 32Ond caiff ef un llwyth er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais allan o holl lwythau Israel. 33Gwnaf hyn am ei fod wedi fy ngwadu i ac addoli Astoreth duwies y Sidoniaid, a Chemos duw Moab, a Milcom duw'r Ammoniaid, ac am nad yw wedi cerdded yn fy llwybrau i fel ei dad Dafydd, na gwneud yr hyn sy'n iawn gennyf fi, sef cadw fy ordeiniadau a'm barnedigaethau. 34Eto nid wyf am gymryd y deyrnas i gyd o'i ddwylo; yn hytrach gadawaf ef yn bennaeth am ei oes, er mwyn fy ngwas Dafydd, a ddewisais ac a gadwodd fy ngorchmynion a'm deddfau. 35Ond yr wyf am gymryd y deyrnas oddi ar ei fab a rhoi deg llwyth ohoni i ti. 36Rhoddaf un llwyth i'w fab, fel y caiff fy ngwas Dafydd lamp ger fy mron am byth yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi fy hun i osod fy enw yno. 37Dewisaf dithau i deyrnasu ar gymaint ag a ddymuni, a byddi'n frenin ar Israel. 38Ac os gwrandewi ar bopeth a orchmynnaf, a rhodio yn fy ffyrdd, a gwneud yr hyn sy'n iawn gennyf, sef cadw fy neddfau a'm gorchmynion fel y gwnaeth fy ngwas Dafydd, byddaf gyda thi a chodaf iti dŷ sicr fel y gwneuthum i Ddafydd. 39Rhoddaf Israel i ti er mwyn cosbi hil Dafydd oherwydd hyn; eto nid am byth chwaith.’ ” 40A cheisiodd Solomon ladd Jeroboam, ond ffodd Jeroboam draw i'r Aifft at Sisac brenin yr Aifft, ac yno y bu hyd farwolaeth Solomon.
Marwolaeth Solomon
2 Cron. 9:29–31
41Am weddill hanes Solomon, popeth a gyflawnodd, a'i ddoethineb, onid yw ar gael yn llyfr gweithredoedd Solomon? 42Deugain mlynedd oedd hyd yr amser y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem dros Israel. 43Pan fu farw Solomon, a'i gladdu yn ninas ei dad Dafydd, daeth ei fab Rehoboam yn frenin yn ei le.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004