No themes applied yet
Gwrthryfel Llwythau'r Gogledd
2 Cron. 10:1–19
1Aeth Rehoboam i Sichem, gan mai i Sichem y daethai holl Israel i'w urddo'n frenin. 2Pan glywodd Jeroboam fab Nebat, a oedd o hyd yn yr Aifft, lle'r oedd wedi ffoi rhag y Brenin Solomon, arhosodd yn yr Aifft. 3Ond galwasant amdano, a daeth Jeroboam a holl gynulliad Israel a dweud wrth Rehoboam, 4“Trymhaodd dy dad ein hiau; os gwnei di'n awr ysgafnhau peth ar gaethiwed caled dy dad a'r iau drom a osododd arnom, yna fe'th wasanaethwn.” 5Dywedodd yntau wrthynt, “Ewch i ffwrdd am dridiau, ac yna dewch yn ôl ataf.” Aeth y bobl. 6Ymgynghorodd Rehoboam â'r henuriaid oedd yn llys ei dad Solomon pan oedd yn fyw, a gofynnodd, “Sut y byddech chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn?” 7Eu hateb oedd, “Os byddi di heddiw yn was i'r bobl hyn, a'u gwasanaethu a'u hateb â geiriau teg, byddant yn weision i ti am byth.” 8Ond gwrthododd y cyngor a roes yr henuriaid, a cheisiodd gyngor y llanciau oedd yn gyfoed ag ef ac yn aelodau o'i lys. 9Gofynnodd iddynt hwy, “Beth ydych chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn sy'n dweud wrthyf, ‘Ysgafnha rywfaint ar yr iau a osododd dy dad arnom’?” 10Atebodd y llanciau oedd yn gyfoed ag ef, “Fel hyn y dywedi wrth y bobl hyn sy'n dweud wrthyt: ‘Gwnaeth dy dad ein hiau yn drwm; ysgafnha dithau arnom.’ Ie, dyma a ddywedi wrthynt: ‘Y mae fy mys bach i yn braffach na llwynau fy nhad! 11Mae'n wir i'm tad osod iau drom arnoch, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach. Cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!’ ”
12Pan ddaeth Jeroboam a'r holl bobl at Rehoboam ar y trydydd dydd, yn ôl gorchymyn y brenin, “Dewch yn ôl ataf ymhen tridiau”, 13atebodd y brenin hwy'n chwyrn. Diystyrodd gyngor yr henuriaid, a derbyn cyngor y llanciau. 14Dywedodd wrthynt, “Trymhaodd fy nhad eich iau, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach; cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!” 15Felly ni wrandawodd y brenin ar y bobl, oherwydd fel hyn y tynghedwyd gan yr ARGLWYDD, er mwyn i'r ARGLWYDD gyflawni'r gair a lefarodd drwy Aheia o Seilo wrth Jeroboam fab Nebat.
16A phan welodd holl Israel nad oedd y brenin am wrando arnynt, daeth ateb oddi wrth y bobl at y brenin:
“Pa ran sydd i ni yn Nafydd?
Nid oes cyfran inni ym mab Jesse.
Adref i'th bebyll, Israel!
Edrych at dy dŷ dy hun, Ddafydd!”
Yna aeth Israel adref. 17Ond yr oedd rhai Israeliaid yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam yn frenin arnynt.
18Pan anfonodd y brenin atynt Adoram, goruchwyliwr y llafur gorfod, llabyddiodd yr Israeliaid ef a'i ladd; ond llwyddodd y Brenin Rehoboam i gyrraedd ei gerbyd a ffoi i Jerwsalem. 19Ac y mae Israel mewn gwrthryfel yn erbyn llinach Dafydd hyd heddiw. 20Wedi i Israel gyfan glywed fod Jeroboam wedi dychwelyd, anfonasant i'w wahodd i'r gymanfa, a'i urddo'n frenin dros Israel gyfan. Nid oedd ond llwyth Jwda'n unig yn glynu wrth linach Dafydd.
Proffwydoliaeth Semaia
2 Cron. 11:1–4
21Pan ddychwelodd Rehoboam i Jerwsalem, galwodd ynghyd holl dylwyth Jwda a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain o filoedd o ryfelwyr dethol, i ryfela yn erbyn Israel i adennill y frenhiniaeth i Rehoboam fab Solomon. 22Ond daeth gair Duw at Semaia, gŵr Duw: 23“Dywed wrth Rehoboam fab Solomon, brenin Jwda, ac wrth holl bobl Jwda a Benjamin a phawb arall, 24‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Peidiwch â mynd i ryfela yn erbyn eich brodyr yr Israeliaid; ewch yn ôl adref bob un, gan mai oddi wrthyf fi y daw hyn.’ ” A gwrandawsant ar air yr ARGLWYDD, a dychwelyd adref yn ôl gair yr ARGLWYDD.
Jeroboam yn Troi oddi wrth yr ARGLWYDD
25Adeiladodd Jeroboam Sichem ym mynydd-dir Effraim i fyw yno, ond wedyn gadawodd y fan ac adeiladu Penuel. 26Meddyliodd Jeroboam, “Yn awr, efallai y dychwel y frenhiniaeth at linach Dafydd. 27Os â'r bobl hyn i offrymu yn nhŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem, yna fe fydd calon y bobl hyn yn troi'n ôl at eu meistr, Rehoboam brenin Jwda; fe'm lladdant i a dychwelyd at Rehoboam brenin Jwda.” 28Felly cymerodd y brenin gyngor a gwneud dau lo aur, a dweud wrth y bobl, “Y mae'n ormod i chwi fynd i fyny i Jerwsalem; dyma dy dduwiau, Israel, y rhai a ddaeth â chwi i fyny o'r Aifft.” 29Gosodwyd un eilun i fyny ym Methel, a rhoi'r llall yn Dan. 30Ond bu hyn yn achos pechu, oherwydd yr oedd y bobl yn mynd i addoli'r naill i Fethel a'r llall i Dan12:30 Felly Groeg. Hebraeg, addoli'r naill i Dan.. 31Wedi iddo godi uchelfeydd, urddodd offeiriaid o blith y bobl i gyd, heb iddynt fod yn Lefiaid. 32Sefydlodd Jeroboam ŵyl o bererindod ar y pymthegfed dydd o'r wythfed mis, fel yr ŵyl o bererindod oedd yn Jwda; ac yr oedd yntau yn offrymu ar yr allor. Dyna sut y gwnâi ym Methel, ac aberthu i'r lloi a luniodd; hefyd fe osododd ym Methel offeiriaid yr uchelfeydd a godwyd ganddo. 33Fe offrymodd ar yr allor a wnaeth ym Methel ar y pymthegfed dydd o'r wythfed mis. Dyfeisiodd ddyddiad iddo'i hun, lluniodd ŵyl o bererindod i'r Israeliaid ac aeth ef ei hun at yr allor i offrymu.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004